1A 2.Bren.1.24:(sic.)Thrigolion Ierusalem a vrddasant Ahazia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei lê ef, canys y fintei yr hon a ddelse gyd a’r Arabiaid i’r gwerssyll a laddase y rhai hynnaf oll: felly Ahazia mab Ioram brenin Iuda a deyrnasodd.
2Mab* dwy flwydd a deugain Ahazia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn flwyddyn y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Athaliah merch Omri.
3Yntef hefyd a rodiodd mewn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam ef oedd yn ei gynghôri ef i wnethur drwg.
4Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt oeddynt gynghoriaid iddo ef ar ôl marwolaeth ei dâd ef, iw ddinistr ef.
5Felly efe a rodiodd yn eu cyngor hwynt, ac a aeth gyd ag Ioram mab Ahab brenin Israel i ryfel yn erbyn Hazael brenin Syria yn Ramoth Gilead: a’r Syriaid a darawsant Ioram,
6Ac efe a ddychwelodd i ymiachau i Iezrahel, o herwydd y dyrnodiau a’r rhai y tarawsent ef yn Ramah pan ymladdodd efe ag Hazael brenin Syria: ac Ahazia mab Ioram brenin Iuda a aeth i wared i ym weled ag Ioram mab Ahab i Iezrahel, canys claf oedd efe.
7A dinistr Ahazia oedd oddi wrth Dduw, am fyned at Ioram: pan ddaeth, efe a aeth gyd ag Ioram yn erbyn Iehu mab Nimsi’r hwn a 2.Bren.9.7.enneiniase’r Arglwydd i dorri ymmaith dŷ Ahab.
8A phan farnodd Iehu yn erbyn tŷ Ahab: yna efe a gafodd dywysogion Iuda, a meibion brodyr Ahazia y rhai oeddynt yn gwasanaethu Ahazia, ac efe ai lladdodd hwynt.
9Ac efe a geisiodd Ahazia, a hwynt ai daliasant ef (lle yr oedd efe yn llechu yn Samaria) a hwy ai dugasant ef at Iehu, lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef, canys dywedasant, mab Iehosaphat efe yr hwn a geisiodd yr Arglwydd ai holl galon: felly ni i dŷ Ahazia i lywodraethu y deyrnas.
10Pan welodd Athaliah mam Ahazia farw oi mab hi: yna hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinawl hâd tŷ Iuda.
11Ond Iosabah merch y brenin a gymmerth Ioas fab Ahaziah, ac ai lladraraodd ef o fysc meibion y brenin y rhai a lladdwyd, ac ai rhoddodd ef, ai fammaeth mewn stafell y gwelâu: felly Iosabah merch y brenin Ioram gwraig Ichoiada yr offeiriad ai cuddiodd ef (canys chwaer Ahazia ydoedd hi) rhac ofn Athaliah, fel na laddwyd ef.
12Ac efe a fu yng-hudd gyd a hwynt yn nhy Dduw chwe blynedd: ac Athaliah oedd yn teyrnasu ar y wlâd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
