1Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia y datcuddiwyd peth i Ddaniel, (yr hwn y gelwyd ei enw Baltassar) a’r peth wir, ond y cyfamser hîr: ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd ŵybod y weledigaeth.
2Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair ŵythnos o ddyddiau.
3Ni fwytteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fyng-enau, gan iro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair ŵythnos o ddyddiau.
4Ac yn y pedwerydd dydd ar ddêc o’r mîs cyntaf yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno Hidecel.
5Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisco â lliain, ai lwyni wedi eu gwregyssu ag aur coeth o Uphaz.
6Ai gorph ef fel maen Turcas, ai wyneb fel gwelediad mellten, ai lygaid fel ffaglau tân, ai freichiau ai draed, fel lliw prês gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa.
7A mi Daniel yn vnic a welais y weledigaeth, a’r dynion y rhai oeddynt gyd â mi ni welsant y weledigaeth: eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoasant hwy i ymguddio.
8A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof, a’m lliw a drôdd ynof yn llygredigaeth, ac ni ellais attal nerth.
9Yna y clywais sain ei eiriau ef, a phan glywais sain ei eiriau ef, yna y llewygais ar fy wyneb, a’m hwyneb tua’r ddaiar.
10Ac wele llaw a gyffyrddodd â mi, ac a’m gosododd ar fyng-liniau, ac ar gledr fy nwylo.
11Ac efe a ddywedodd wrthif: Daniel ŵr hoff, deall y geiriau y rhai a lefaraf wrthit, a sâf di yn dy sefyll, canys attat ti i’m hanfonwyd yr awr hon: a phan ddywedodd efe wrthif y gair hwn, sefais gan grynu.
12Hefyd, dywedodd wrthif, nac ofna Daniel, o herwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio ger bron dy Dduw y gwrandawyd dy eiriau, ac o herwydd dy eiriau di y daethum i.
13Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn vn diwrnod ar hugain, ac wele Michael, vn o’r tywysogion pennaf a ddaeth i’m cynhorthwyo: a mi a arhoes gyd â brenhinoedd Persia.
14A mi a ddaethum i beri it ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf, o herwydd y weledigaeth tros ddyddiau etto.
15Ac phan lefarodd efe wrthif fel hyn, rhoddais fy wyneb tua’r ddaiar, ac thewais.
16Ac wele, peth tebyg i ddyn a gyffyrddodd a’m gwefusau, yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fyng-hyfer, ô fy Arglwydd fyng-ofidiau a droesant arnaf yn y weledigaeth hon, ac ni ellais attal nerth.
17A pha fodd y dichon gwasanaeth-wr fy Arglwydd ymma, lefaru wrth fy Arglwydd ymma? ac o hynny allan ni safodd fy nerth ynof, ac nid arhôdd ffûn ynof.
18Yna y cyffyrddodd efe eil-waith â mi, fel dull dyn, ac a’m cyssurodd,
19Ac efe a ddywedodd, nac ofna ŵr annwyl, heddwch it, ymgyssura, ac ymnertha: a phan lefarodd efe wrthif yr ymgyssurais ac y dywedais: llefared fy Arglwydd o herwydd cyssuraist fi.
20Ac efe a ddywedodd, a ŵyddosti pa ham y deuthum attat? canys weithian y dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac a mi yn myned allan, wele dywysog Groec yn dyfod i mewn.
21Eithr mynegaf it yr hyn a yspysswyd it mewn scrifen wirionedd, ac nid vn yn ymegnîo gyd â mi yn hyn onid Michael eich tywysog.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.