1 Yn ddiau dâ Duw i Israel: i’r rhai glân o galon.
2Etto braidd na lithrodd fy nhraed, prinn na thrippiodd fyng-herddediad.
3Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, welais lwyddiant y rhai annuwiol.
4Canys heb ofid iw marwolaeth, ai cryfder heini.
5Nid mewn blinder dynawl, ac ni ddialeddir arnynt hwy gyd â dynnion eraill.
6Am hynny y cadwynodd balchder hwynt y gwisc trawsder am danynt dilledyn.
7Eu llygad a saif allan gan frasder: aethāt tros feddwl calon
8Y maent yn llygru, yn chwedleua yn ddrygionus drawsder: yn dywedyd yn vchel.
9Gosodâsant eu genau yn erbyn y nefoedd, ai tafod a gerdd trwy’r ddaiar.
10Am hynny y dychwel ei bobl ef ymma, ac y gwescir iddynt ddwfr lawn.
11Dywedant hefyd, pa fodd y gŵyr Duw, a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
12Wele dymma y rhai annuwiol, a’r rhai ydynt lwyddiannus yn wastad: a amlhâsant olud.
13Diau yn ofer y glanhêais fyng-halon, ac y golchais fy nwylo mewn gwiriondeb.
14Canys ar hyd y dydd i’m maeddwyd, fyng-hosp bôb boreu.
15Os dywedwn, mynega fel hyn, wele chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
16Pan amcânwn ddeall hyn, blîn hynny yn fyng-olwg mau fi.
17Hyd onid euthum i gyssegr Duw: yna y deallais eu diwedd hwynt.
18Diau osod o honot hwynt yn llithric chwympo o honot ti hwynt i anghyfannedd-dra.
19Morr ddisymmwth yr aethant yn anghyfannedd, y pallhâsant, ac y darfuant yn aruthrol.
20Fel breuddwyd wrth ddihuno y gwnei eu gwedd hwynt yn ddirmygus yn y ddinas ô Arglwydd.
21Diau lidio fyng-halon: a’m trywanu trwy fy arennau.
22Canys i yn ynfyd, ac heb ŵybod anifail oeddwn o’th flaen di.
23Etto yr yn wastad gyd â thi: ymaflaist yn fy llaw ddehau.
24Yn dy gyngor i’m harweini: ac wedi i’m cymmeri ogoniant.
25Pwy gennifi yn y nefoedd ac ni ewyllysiais ar y ddaiar gyd â thydi.
26Pallodd fyng-nhawd a’m calon, nerth fyng-halon a’m rhan Duw yn dragywydd.
27Canys wele difethir y rhai a bellhânt oddi wrthit, peraist dorri ymmaith bôb vn a butteinio oddi wrthit.
28Minne, nessaû Dduw dda i mi, yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fyng-obaith, i dreuthu dy holl weithredoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
