1.Samuel 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.Dafydd yn gallu lladd Saul, ac yn ei arbed ef. 18 Saul yn cydnabod ei fai, ac yn peri i Ddafydd dyngu bod yn dda wrth ei hiliogaeth ef.

1 A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid: yna y mynegwyd iddo ef gan ddywedyd, wele Ddafydd yn anialwch En-gedi.

2 Yna y cymmerth Saul dair mîl o wŷr etholedig o holl Israel: ac efe a aeth i geisio Dafydd ai wŷr ar hŷd coppa y creigiau y geifr gwylltion.

3 Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid ar y ffordd, ac yno yr oedd ogof, a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorph: a Dafydd ai wŷr oeddynt yn aros yn ystlysau yr ogof.

4 Yna gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, wele’r dydd yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthit, wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelech iddo ef megis y byddo da yn dy olwg di: yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwrr y fantell (yr hon am Saul) yn ddirgel.

5 Ac wedi hyn chwîth fu gan Ddafydd o herwydd iddo dorri cwrr yr hon gan Saul.

6 Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, na atto’r Arglwydd i mi wneuthur y peth hwn i’m meistr eneiniog yr Arglwydd, gan estyn fy llaw yn ei erbyn ef: oblegit eneiniog yr Arglwydd efe.

7 Felly y gostegodd Dafydd ei wŷr a’r geiriau ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul: a Saul a gododd i fynu o’r ogof, ac a aeth i ffordd.

8 Ac yn ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof, ac a lefodd ar ôl Saul gan ddywedyd, fy arglwydd frenin: pan edrychodd Saul oi ôl, yna Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaiar, ac a ymgrymmodd.

9 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, pa ham y gwrandewi eiriau dŷn, gan ddywedyd? wele y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti.

10 Wele dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddyw yn yr ogof, a dywetpwyd am dy ladd di, ond a’th arbedodd di: a dywedais, ni estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr, canys eneiniog yr Arglwydd efe.

11 Fy nhâd hefyd gwêl, gwêl etto gwrr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymmaith gwrr dy fantell di heb dy ladd, gŵybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni, na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn, er dy fod ti yn hêla a’m fy enioes i iw chymmeryd hi ymaith.

12 Barned yr Arglwydd rhyngofi a thithe, a dialed yr Arglwydd fi arnat ti, ac na fydded fy llaw i i’th erbyn di.

13 Megis y dywed yr hên ddihareb, o’r rhai anwir y daw allan anwiredd: ond ni bydd fy llaw i i’th erbyn di.

14 Ar ôl pwy’r aeth brenin Israel allan? ar ôl pwy’r ydwyt ti’n erlid? ar ôl cî marw? ar ôl vn gwybedyn?

15 Ond bydded yr Arglwydd yn farn-wr, a barned rhyngofi a thi: edryched hefyd a dadleued fy nadl, ac achubed fi o’th law di.

16 A phan orphennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, ai dy lêf di hon fy mab Dafydd? a Saul a dderchafodd ei lêf, ac a ŵylodd.

17 Efe a ddywedodd hefyd wrth Ddafydd, cyfiawnach ti na mi: canys ti a delaist i mi y daioni, a minne a delais i ti y drygioni.

18 A thi a ddangosaist heddyw yr hyn a wnaethost a mi o ddaioni: o herwydd rhoddes yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist.

19 Ond os caffe gwr ei elyn, a ollynge efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn.

20 Ac wele yn awr y gwn gan deyrnasu y teyrnesi di: ac y saif brenhiniaeth Israel yn dy law di.

21 Twng dithe wrthifi yn awr i’r Arglwydd, na thorrech ymmaith fy hâd i ar fy ôl: ac na ddifethech fy enwi o dŷ fy nhâd.

22 Felly Dafydd a dyngodd wrth Saul: a Saul a aeth iw dŷ, Dafydd hefyd ai wŷr a aethant i fynu i’r amddeffynfa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help