Gweithredoedd yr Apostolion 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Carchar yr Apostolion, 8 pregeth Petr, 19 atteb yr Apostolion i’r swyddogion, 24 gweddi, ac vndeb yr eglwys.

1Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a llywydd y Deml, a’r Saducaeaid a ddaethant arnynt hwy,

2Ac yr oedd yn flin ganddynt eu bod yn dyscu y bobl, ac yn pregethu yn yr Iesu yr adgyfodiad o feirw.

3Ac hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd trannoeth, herwydd hwyr oedd erbyn hynny.

4Eithr llawer o’r rhai a glywsent y gair a gredasant, a rhifedi y gwyr a wnaed yng-hylch pum mil.

5A digwyddodd drannoeth ddarfod iw llywodraeth-wŷr hwy, a’r henuriaid, a’r scrifennyddion, ymgynnull i Ierusalem,

6Ac Annas yr arch-offeiriad, a Chaiphas, ac Ioan, ac Alexander a chymaint oll ac oeddynt o genedl yr arch-offeiriaid.

7Ac wedi iddynt eu gosod yn y canol, hwy a ofynnasant: trwy ba awdurdod, neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?

8Yna Petr yn gyflawn o’r Yspryd glân a ddywedodd wrthynt, bennaethiaid y bobl, a henuriaid Israel,

9Od ydys yn ein holi ni heddyw, am weithred dda i’r dyn claf, pa wedd yr iachauwyd ef,

10Bydded yspysol i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nazareth yr hwn a groes-hoeliasoch chwi, a’r hwn a gyfodes Duw o feirw: trwy hwn y safodd hwn ger eich bron chwi.

11 Psal.118.22. Esai.28.16. Math.21.42. Mar.12.10. Luc.20.17. Rufein 9.33. 1.Pet.2.7. Dymma y maen hwnnw a lyswyd gennych chwi yr adeilad-wŷr, ac a wnaed yn ben i’r gongl.

12Ac nid oes iechydwriaeth yn neb arall, o blegit ni roddwyd enw arall dā y nef ym mhlith dynion drwy yr hwn y mae yn rhaid ein hiachau

13A phan welsant hyder Petr ac Ioan, a gŵybod eu bod yn anllythrennoc, ac yn annyscedig, rhyfeddu a wnaethant, ac hwy a ŵyddent eu bod hwy gyd â’r Iesu.

14 Ac wrth weled hefyd y dŷn a iachausid yn sefyll gyd â hwynt, ni allent ddywedyd dim yn herbyn:

15Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy a ymgynghorâsant yn eu plith eu hunain,

16Gan ddywedyd, beth a wnawn ni i’r dynion hyn? canys arwydd eglur a wnaed trwyddynt hwy, yr hwn sydd hyspys i bawb a’r sydd yn presswylio yn Ierusalē, ac ni allwn ni wadu.

17Eithr rhag ei danu ym mhellach ym mysc y bobl, bygythiwn hwynt yn dost, na lefarant mwy wrth neb yn yr enw hwn.

18Ac hwy a’u galwasant hwy, ac a orchymmynasant na lefarent, ac na ddyscent ddim oll yn enw yr Iesu.

19Eithr Petr ac Ioan a’u hattebasant, ac a ddywedasant wrthynt, pa vn sydd gyfiawn ger bron Duw, ai gwrando arnoch chwi, ynte yn hytrach ar Dduw? bernwch chwi.

20Canys ni allwn na ddywedom y pethau a welsom, ac a glywsom.

21Ac hwythau gan eu bygwth a’u gollyngasant heb gael neb iw cospi hwynt, o blegit y bobl, am fod pawb oll yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.

22Canys yr oedd y dyn vwch-law deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd iechydwriaeth.

23A hwynt wedi eu gollwng ymmaith a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant y pethau a ddywedase yr arch-offeiriaid a’r henuriaid wrthynt.

24Hwythau pan glywsant, a gyfodasant eu lleferydd o vn-fryd at Dduw, ac a ddywedasant ô Arglwydd ty di yw y Duw yr hwn a wnaethost nef a daiar, y môr ac oll y sydd ynddynt,

25Yr hwn trwy yr Yspryd glân yng-enau dy wâs Dafydd, a ddywedaist, Psal.2.1. pa ham y terfyscodd y cenhedloedd, ac y myfyriodd y bobl oferedd?

26Y safodd brenhinoedd y ddaiar i fynu, ac yr ymgasclodd y pennaethiaid yng-hyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef?

27Canys mewn gwirionedd yn y ddinas hon yr ymgynhullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod, a Phontius Pilat gyd â’r cenhedloedd, a phobl Israel,

28I wneuthur beth bynnac a ddarfu i’th law di, a’th gyngor eu rhagderfynu iw gwneuthur.

29Ac yn awr Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniadhâ i’th weision draethu dy air di, â phob hyder.

30Trwy estyn o honot dy law i iachau, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.

31Ac wedi iddynt weddio, y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo a symmuoodd, ac hwy a lanwyd oll o’r Yspryd glân, ac hwy a draethasant air Duw yn hyderus.

32Ac i’r lliaws a oedd yn credu yr oedd vn galon, ac vn enaid, ac ni ddywedodd yr vn o honynt am yr hyn a fedde, ei fod yn ei eiddo ei hun, ond pob peth oedd rhyngddynt yn Pen.2.44. gyffredin.

33A’r Apostolion trwy nerth mawr a roddasant destiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a grâs mawr oedd arnynt hwy oll.

34Canys nid oedd neb yn eu plith, ac eisieu arno, sef pob vn a’r a oedd yn perchennogi tiroedd neu dai, a’u gwerthasant, ac a ddugasant werth y pethau a werthasid,

35Ac a’i gosodasant wrth draed yr Apostolion: a rhannwyd beunydd i bawb yn ôl ei eisieu.

36Yna Ioseph yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr Apostolion (yr hyn yw o’i gyfieithu mab y diddanwch) yn Lefiad, ac o genedl yn Cypriad,

37Ac efe yn berchen tir a’r gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a’i gosodes wrth draed yr Apestolion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help