1 Mawl a’th erys di yn Sion ô Dduw: ac i ti y têlir yr adduned.
2[Ti]’r hwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pob cnawd.
3Pethau anwir a’m gorchfygâsant, ti a drugarhei wrth ein camweddau.
4Gwyn ei fyd a ddewisech, ac a nessâech attat: efe a drig yn dy gynteddoedd, ac ni a ddigonir â daioni dy dŷ, dy Deml sanctaidd.
5Attebi i ni ofnadwy yn gyfiawnder ô Dduw ein iechydwriaeth: gobaith holl gyrrau y ddaiar, ac eithafoedd y môr.
6Yr hwn a siccrhâ y mynyddoedd yn ei nerth, a wregyssir â chadernid.
7Yr hwn a ostêga dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysc y bobloedd.
8A phresswyl-wŷr eithafoedd a ofnant dy arwyddion, gwnei i derfyn boreu a hwyr glodfôri.
9Yr wyt yn gofwyo y ddaiar, ac yn ei dwfrhau hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr, afon Duw sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, canys felly y darperaist hi.
10Gan ddwfrhau ei rhychau, gostwng ei chwysau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnŵd hi.
11Corôni yr ydwyt y flwyddyn a’th ddaioni, a’th lwybrau a ddifêrant fraster.
12Difêrant lanherchoedd yr anialwch: a’r brynnau a ymwregysant â hyfrydwch.
13Y dolydd a wiscir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchguddir ag ŷd, y bloeddiant, ac y cânant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
