Iob 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.Iob yn attolwg cael iniawn-farn: gan fynegu ei fuchedd dda oll.

1Myfi a wneuthum ammod a’m llygaid, nad edrychwn ar forwyn?

2Canys pa rann Dduw oddi vchod? a etifeddiaeth yr Holl-alluog o’r vchelder?

3Ond trychineb i’r anwir? a dieithr i’r rhai sy yn gwneuthur anwiredd?

4Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac ydyw efe yn cyfrif fyng-hamrau i?

5Os rhodiais mewn oferedd: ac prysurodd fy nhroed i dwyllo,

6Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn: a mynned Duw ŵybod fy mherffeithrwydd.

7Os gŵyrodd fyng-herddediad allan o’r ffordd: a myned o’m calon ar ôl fy llygaid: neu lynu dim aflan yn fy nwy-law:

8Bwytaed arall yr hyn a hauwyf: a dadwreiddier fy hiliogaeth i.

9Os twylled fyng-halon at wraig: ac os cynllwynais wrth ddrws fyng-hymydog,

10Maled fyng-wraig inne i arall: a gorwedded eraill gyd a hi.

11Canys scelerder ydyw hyn, ac anwiredd iw farnu ydyw efe.

12Canys tân ydyw efe a yssa oni anrheithio: ac efe a ddadwreiddiase fy holl ffrwyth.

13Os diystyrais farn fyng-wâs a’m gwasanaeth-ferch, pan ymrysonent hwy a myfi:

14Canys pa beth a wnawn pan gode Duw? a phan ymwele efe, pa beth a attebwn iddo?

15Ond yr hwn a’m gwnaeth i yn y grôth, ai gwnaeth yntef? a’r vn a’n cymhwysodd ni yn y bru?

16Os atteliais o ddeisyfiad y tlodion: ac os gwneuthum i lygaid y wraig weddw ddeffygio,

17Ac os bwyteais fy mwyd yn vnic, ac oni fwytaodd yr ymddifad o honaw ef,

18(Canys efe a gynnyddodd mi fel thâd o’m hieuengtid: ac o grôth fy mam mi a dywysais y weddw. )

19Os gwelais yn marw o eisieu dillad: ac nad wisc i’r anghenog,

20Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant, ac chynhesodd efe gan gnû fy ŵyn i,

21Os codais fy llaw yn erbyn yr ymddifad, pan welwn fyng-hymmorth yn y porth:

22Syrthied fy mhalfais oddi wrth fy yscwydd: a dryllier fy mraich allan o’r cymmal.

23Canys ofn dinistr Duw arnaf: o herwydd ni allwn gan ei vchelder ef.

24Os gosodais fyng-obaith aur: ac os dywedais wrth aur coeth, fy ymddyried

25Os llawenychais pan fynghyfoeth yn aml: a phan gaffe fy llaw mawr.

26Os edrychais ar yr haul pan dywynne: a’r lleuad yn cerdded yn odidog,

27Os twyllodd fyng-halon yn guddiedic ac cussanodd fy llaw i fyng-enau:

28Hyn hefyd anwiredd iw barnu: canys gwadaswn Dduw oddi vchod.

29[Felly] a lawenychais i am drychineb yr hwn a’m casâe i, ac a ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo ef?

30Canys ni ddioddefais i daflod fyng-enau bechu: gan ofyn ei enioes ef drwy felldigo.

31Oni ddywedodd dynnion fy mwth i, pwy a ddyru oi gnawd ef? ni ddigonid ni.

32Ni leteuodd dieithr-ddyn allan: agorais fy nrysau i’r fforddolion.

33Ni thoais fyng-hamweddau fel Adda gan guddio fy anwiredd yn fy monwes,

34Canys gallaswn orthrymmu tyrfa luosog, ond y teulu gwaelaf a’m dychryne i, fel y tawn heb fyned allan drŵs.

35Oh am vn a’m gwrandawe, wele fy nymyniad, yr Holl-alluog a destiolaetha gyd a mi er scrifennu o’m gwrthwyneb-wr lyfr

36Oni ddygwn ef ar fy yscwydd: rwymwn ef yn coron i mi?

37Mynegwn iddo ef rifedi fyng-hamrau: fel at dywysog y nessawn atto ef.

38Os ydyw fy nhîr i yn llefain yn fy erbyn: ac ydyw ei gwysau ef yn cyd-ŵylo,

39Os bwyteais i ei gryfowr ef yn ddiardreth: ac cystuddiais enaid ei berchennogion ef,

40Deued yscall allan yn llê gwenith, a bulwg yn lle haidd: Y DIWEDDWYD GEIRIAV IOB.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help