1 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
2Deuwn ger ei fron ef â diolch: cânwn yn llafar iddo psalmau.
3Canys yr Arglwydd Dduw mawr, a brenin mawr ar yr holl dduwiau.
4Yr hwn gorddyfnder y ddaiar yn ei law: ac vchelder y mynyddoedd yn eiddo ef.
5Yr hwn’r môr yn ei eiddo, canys efe ai gwnaeth: ai ddwylo a luniasant y sychdir.
6Deuwch, addolwn, ac ymgrymmwn, gostyngwn ger bron yr Arglwydd ein gweithydd.
7Canys efe yw ein Duw ni, a ninne yn bobl ei borfa, ac yn ddefaid ei ddwylaw, heddyw os gwrandewch ar ei leferydd,
8Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch.
9Lle y temptiodd eich tadau fi, y profâsant fi, ac y gwelsant fyng-weithredoedd.
10Deugain mhlynedd yr ymrysonais a’r genhedlaeth a dywedais, pobl gyfeiliornus yn calon hwy: canys nid adnabûant hwy fy ffyrdd.
11[Am] y rhai y tyngais yn fy llid na ddelent i’m gorphywysfa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
