Sophonia 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Bygwth y mae efe Iuda, ac Ierusalem am eu gau-dduwiaeth.

1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Sophonia fab Cusi fab Gedaliah fab Amariah, fab Hezeciah yn amser 2.Bren.22.1. Iosia fab 2.Bren.21.19. Amon brenin Iuda.

2Gan ddestruwio y destruwiaf bôb dim oddi ar wyneb y ddaiar, medd yr Arglwydd.

3Destruwiaf ddyn, ac anifail, destruwiaf adar yr awyr, a physc y môr, a thramgwydd a ddilyn yr annuwolion, a diwreiddiaf ddyn oddi ar wyneb y ddaiar, medd yr Arglwydd.

4Estynnaf hefyd fy llaw ar Iuda, ac ar holl bresswylwŷr Ierusalem: a diwreiddiaf o’r lle hwn weddill Baal, enw y 2.Bren.23.5. Osea.10.5. Cemariaid, a’r offeiriaid.

5Felly y neb a ymgrymmant ar nennau y tai i lû y nefoedd, a’r addolwyr a dyngant i’r Arglwydd, a hefyd a dyngant i Malchom.

6A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd, a’r rhai ni cheisiant yr Arglwydd, ac nid ymgynghorant ag ef.

7Gostega ger bron yr Arglwydd Dduw, canys agos yw dydd yr Arglwydd, o herwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth, galwodd ei wahaddedigion.

8A bydd ar ddydd aberth yr Arglwydd i’m ymweled, a’r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb Ezec.23.14. a wiscant wiscoedd dieithr.

9Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant dros y rhinnioc y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dŷ eu meistr â thrais, ac â thwyll.

10A’r dydd hwnnw medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pyscod, ac vdo, o’r ail a dryllio mawr o’r brynnau.

11Udwch bresswylwŷr y glyn, canys anrhaithiwyd yr holl farchnadyddion, a diwreiddiwyd holl glud-wŷr arian.

12A’r amser hwnnw y chwiliaf Ierusalem â lusernau, ac yr ymwelaf a’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod, y rhai a ddywedant yn eu calonnau: ni wnaiff yr Arglwydd dda, ac ni wnaiff ddrwg.

13Am hynny eu cyfoeth aiff yn yspail, ai teiau yn anghyfannedd, adailadant hefyd dai, ac ni’s presswylant, a phlannant winllānoedd, ac nid yfant o’r gwîn.

14Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, chwerw yw llais dydd yr Arglwydd, yna y bloeddia y dewr.

15 Iere.30.7. Ioel.2.11. Amos.5.18. Diwrnod llidioc yw’r diwrnod hwnnw, diwrnod blîn, a thrîst, diwrnod dinistr a destruw, diwrnod tywyllwch a niwl, diwrnod cwmylau, a thywyllni.

16Diwrnod vdcorn ac alarwm, yn erbyn y dinasoedd caeroc, ac yn erbyn y tŷrau vchel.

17Yna y cyfyngaf ar ddynion, ac hwy a rodiant megis deillion, am bechu o honynt yn erbyn yr Arglwydd, ai gwaed a dywelltir fel llŵch, ai cnawd fel tōm.

18Nid Ezec.7.15. eu harian, nai haur ychwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd, onid â thân ei eiddigedd ef Soph.3.8. yr yssir yr holl dîr: canys gwnaiff yr Arglwydd drangc pryssur ar holl bresswyl-wŷr y ddaiar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help