Mathew 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.1 Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nef, 6 Am rwystrau. 12 Y ddafad golledic. 15 Beth sydd iw wneuthur pan gaffer cam. 23 Dammeg y brenin yn mynny cyfrif gan ei weision.

1 A’r amser hynny y daeth y discyblion at yr Iesu gan ddywedyd,

9Ac os dy lygad a’th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i fywyd ag vn llygad, nag â dau lygad dy daflu i dân vffern.

10Edrychwch na ddirmygoch yr vn o’r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Yna y daeth Petr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? Luc.17.4.ai hyd saith-waith?

22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, nid ydwyf yn dywedyd wrthit, hyd saith waith, onid hyd ddeng-waith a thrugain saith waith.

23Am hynny y mae yn gyffelyb teyrnas nefoedd i ddŷn yn frenin a fynne gael cyfrif gan ei weision,

24A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddugpwyd atto vn a oedd yn ei ddylêd ef o ddeng-mil o dalentau.

25A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, fe a orchymynnodd ei arglwydd ei wrthu ef a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a fedde, a thalu

26A’r gwâs gan syrthio i lawr a attolygodd iddo gan ddywedyd, arglwydd bydd dda dy ymaros wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

27Yna arglwydd y gwâs hwnnw a drugarhaodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd.

28Ac wedi myned o’r gwâs ymmaith, efe a gafodd vn o’i gyfeillion, yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gant ceinioc, ac efe a ymaflodd ynddo, ac ai llindagodd, gan ddywedyd, tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29Yna y syrthiodd ei gydwas wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef gan ddywedyd, bydd ymarhous wrthif, a thalaf i ti y cwbl oll.

30Ac ni’s gwnai efe, onid myned ai fwrw ef yng-harchar, hyd oni dale efe’r hyn oedd ddyledus.

31A phan weles ei gyd-weision y pethau a wnelsid, yr oedd yn ddrwg dros benn ganddynt, ac hwy a ddaethant, ac a fynegâsant iw harglwydd yr holl bethau a fuasent.

32Yna y galwodd ei arglwydd arno ef, ac a ddywedodd wrtho, ha wâs drwg, maddeuais i ti yr holl ddylêd honno, am i ti ymbil â mi.

33Ac oni ddylesit tithe dosturio wrth dy gydwâs, megis, ac y tosturiais i wrthit ti?

34A’i Arglwydd yn llidiog a’i rhoddes ef i’r poen-wŷr, hyd oni thale yr hyn oll oedd ddyledus iddo.

35Ac felly yr vn modd y gwna fy nefol Dâd i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob vn iw frawd eu camweddau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help