Esay 36 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVI.Senacherib yn anfon Rabsaceh i warche ar Ierusalem. 15 ei gabledd yntef yn erbyn Duw.

1Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddec i’r brenin Hezecia y daeth Senacherib brenin Assyria i fynu yn erbyn holl gaeroc ddinasoedd Iuda, ac ai gorescynnodd hwynt.

2Yna brenin Assyria a anfonodd Rabsaceh o Lachis tu ag Ierusalem at y brenin Hezecia â llû dirfawr, ac efe a safodd wrth aber y llynn vchaf yn llwybr maes y pann-wr.

3Ac aeth atto ef Eliacim mab Hilcia, yr hwn ben-teulu, a Sobna yr scrifennudd, ac Ioah mab Asaph y cofiadur.

4 2 Bren.18.19. A dywedodd Rabsaceh wrthynt, dywedwch yn awr wrth Hezecia: fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Assyria, pa hyder hwn, yr hwn yr ymddyriedaist

5Dywedais yn ddiau, i eiriau ofer, cyngor a nerth i ryfel: ar bwy attolwg yr hyderaist, pan wrthryfelaist i’m herbyn?

6Wele hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedic honno, ar yr Aipht, yr hon pwy bynnac a bwyso arni, yna hi a aiff i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly Pharao brenin yr Aipht i bawb a hyderant arno.

7Ac os dywedi wrthif, yn yr Arglwydd ein Duw’r ydym yn ymddyried, onid efe ’r hwn a ddarfu i Hezecia dynnu i lawr ei vchelfeudd ai allorau, ac a ddywedodd wrth Iuda, ac Ierusalem, o flaen yr allor hon yr addolwch chwi?

8Ac yn awr dod wystl attolwg i’m harglwydd, brenin Assyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch os gelli di roddi iddo ef farchogion arnynt.

9A pha fodd y gwrth-wynebi di vn capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddyriedi di yn yr Aipht am gerbydau a marchogion?

10Ai o anfodd yr Arglwydd y daethum i fynu yr awr hon yn erbyn y wlad hon iw dinistrio? yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, dos i fynu yn erbyn y wlad hon a dinistria hi.

11Yna y dywedodd Eliacim, a Sobna hefyd ac Ioah wrth Rabsaceh, llefara attolwg wrth dy weision yn Syrian-aec, canys yr ydym ni yn ei deall: ac na lefara wrthym ni yn iaith yr Iddewon lle y clywo’r bobl y rhai ar y mur.

12Yna y dywedodd Rabsaceh, ai at dy feistr di, ac attat tithe, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynnion y rhai ydynt yn eistedd ar y mur, fel y bwyttânt eu tomm, ac yr yfant eu trwngc gyd â chwi?

13A safodd Rabsaceh, a gwaeddodd â llêf vchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddywedodd, gwrandewch eiriau y brenin mawr brenin Assyria.

14Fel hyn y dywed y brenin, na thwylled Hezecia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi.

15Ac na phared Hezecia i chwi ymddyried yn yr Arglwydd gan ddywedyd: yr Arglwydd gan waredu a’ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Assyria.

16Na wrandewch ar Hezecia, canys fel hyn y dywed brenin Assyria, gwnewch hedwch â mi, a deuwch attaf, a bwyttewch bob vn oi win-wydden ei hun, a phob vn ffigus-bren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun,

17Nes i’m ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun: gwlad ŷd a gwîn, gwlad bara, a gwinllannoedd.

18Rhac i Hezecia eich hudo chwi gan ddywedyd: yr Arglwydd a’ch gwared chwi: a waredodd duwiau y cenhedloeth, pob vn ei wlad o law brenin Assyria?

19Mae duwiau Hemath, ac Arphad? mae duwiau Sepharfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i?

20Pwy ym mhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i? fel y gwarede yr Arglwydd Ierusalem o’m llaw mau fi?

21Yna y tawsant, ac nid attebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin hynn gan ddywedyd: nac attebwch ef.

22Yna y daeth Eliacim mab Hilcia yr hwn ben teulu, a Sobna’r scrifennudd, a Ioah mâb Asaph y cofiadur at Hezecia â gwiscoedd yn rhwygedic, a mynegasant iddo eiriau Rabsaceh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help