Iosuah 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Iosuah yn gwarche, ac yn ennill Ai. 29 Ac yn crogi ei brenin. 30 Yn adailadu allor. 32 Yn scrifennu, ac yn cyhoeddi y gyfraith i’r bobl.

1Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah Deut.7.18. & 21.23.nac ofna, ac na arswyda, cymmer gyd a thi yr holl bobl ryfeloc, a chyfot, dos i fynu i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, ai bobl, ei ddinas hefyd ai wlâd:

2Fel y gwnelech i Ai ai brenin megis y gwnaethost i Iosua.6.21. Deut.20.14.Iericho, ac iw brenin, etto * ei hanrhaith, ai hanifeiliaid a sclyfaethwch i chwi: gosot ti gynllwyn yn erbyn y ddinas o’r tû ôl iddi.

3Yna Iosuah a gyfododd a’r holl bobl ryfeloc i fyned i fynu i Ai: ac Iosuah a ddetholodd ddeng-mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac ai hanfonodd ymmaith liw nôs.

4Ac efe a orchymynnodd iddynt gan ddywedyd, gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas o’r tu ôl i’r ddinas, nac ewch ymmhell iawn oddi wrth y ddinas, and byddwch bawb oll yn barod.

5Minne hefyd, a’r holl bobl y rhai gyd a mi a nessawn ar y ddinas: a phan elont allan i’n cyfarfod ni megis y waith gyntaf, yna ni a ffoiwn oi blaen hwynt.

6Canys hwynt a ddeuant allan ar ein hôl ni, nes i’ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas, o blegit hwynt a ddywedant, ffoi y maent o’n blaen ni fel y waith gyntaf: felly y ffoiwn oi blaen hwynt.

7Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a orescynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw ai dyru hi yn eich llaw chwi.

8A phan ennilloch y ddinas, lloscwch y ddinas a thân, gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd: gwelwch mi a orchymynnais i chwi.

9Felly Iosuah ai hanfonodd, a hwynt a aethant i gynllwyn, ac a arhosasant rhwng Bethel ac Ai, o du yr gorllewyn i Ai: ac Iosuah a leteuodd y nosson honno ym mysc y bobl.

10Ac Iosuah a gyfododd yn forau, ac a gyfrifodd y bobl: ac efe a aeth i fynu a henuriaid Israel o flaen y bobl Ai.

11A’r holl bobl ryfeloc y rhai gyd ag ef a aethant i fynu, ac a nessasant, daethant hefyd yn erbyn y ddinas: a gwerssyllasant o du’r gogledd i Ai, a glynn rhyngddynt hwy ac Ai.

12Ac efe a gymmerth yng-hylch pum mil o wŷr: ac ai gosododd hwynt i gynllwyno rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewyn i’r ddinas.

13A’r bobl a osodasant yr holl werssyllau y rhai o du’r gogledd i’r ddinas, a’r rhann olaf o honynt o du’r gorllewyn i’r ddinas: ac Iosuah a aeth y nosson honno i ganol y dyffryn.

14A phan welodd brenin Ai yna gwyr y ddinas a fryssiasant ac a foreu-godasant, aethant hefyd allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe ai holl bobl ar yr amser nodedic, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wydded efe fod cynllwyn iddo o’r tu ol i’r ddinas.

15Yna Iosuah, a holl Israel tarawsid hwy oi blaen hwynt a ffoasant tua yr anialwch.

16A’r holl bobl y rhai yn y ddinas a gynhullwyd i erlid ar eu hôl hwynt: a hwynt a erlidiasant ar ôl Iosuah, felly y lluscwyd hwynt o’r ddinas.

17Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac Bethel a’r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.

18Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, estyn y waiw-ffon yr hon yn dy law tuac at Ai, canys yn dy law di y rhoddaf hi: ac Iosuah a estynnodd y waiw-ffon yr hon yn ei law tua’r ddinas.

19A’r cynllwyn-wŷr a gyfodasant yn ebrwydd oi lle, ac a redasant pan estynnodd efe ei law, daethant hefyd i’r ddinas, ac ennillasant hi: a hwynt a fryssiasant, ac a loscasant y ddinas a thân.

20A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant, ac wele mwg y ddinas a dderchafodd hyd y nefoedd, ac nid ganddynt hwy fôdd i ffoi ymma, nac accw: canys y bobl y rhai a ffoasent i’r anialwch a ddychwelodd yn erbyn y rhai oeddynt yn erlid.

21Pan welodd Iosuah, a holl Israel i’r cynllwyn-wŷr ennill y ddinas, a derchafu o fŵg y ddinas: yna hwynt a ddychwelasant, ac a darawsant wŷr Ai.

22A hwyntau yn y ddinas a aethant allan iw cyfarfod, felly’r oeddent yng-hanol Israel, y rhai hyn o’r tu ymma, a’r lleill o’r tu accw: a tharawsant hwy fel na adawyd Deut.7.2.yng-weddill, nac yn ddiangol o honynt.

23Ond brenin Ai a ddaliasant yn fyw: a dugasant ef at Iosuah.

24Pan ddarfu i Israel ladd holl bresswylwŷr Ai yn y maes, yn yr anialwch yr hwn yr er lidiasid hwynt ynddo, a syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf nes eu darfod: yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a tharawsant hi a mîn y cleddyf.

25A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw yn wŷr ac yn wragedd oeddynt ddeuddengmil: gwŷr Ai oll.

26Canys ni thrôdd Iosuah trachefn ei law’r hon a estynnase efe gyd a’r waiw-ffon: nes defetha holl drigolion Ai.

27Yn * vnic yr anifeiliaid ac anrhaith y ddinas asclysaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun: yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a orchymynnase efe i Iosuah.

28Ac Iosuah a loscodd Ai: ac ai gosododd hi yn garnedd dragywydd yn diffaethwch 91 hyd y dydd hwn.

29Ac efe a grogodd frenin Ai ar y prenn hyd yr hwyr: ac yng-hylch machludiad yr haul y gorchymynnod Iosuah iddynt Deut.21.23.ddescyn ei gelain ef oddi ar y pren, ai bwrw i ddrws porth y ddinas, a gosodasant garnedd fawr o gerric arni hyd y dydd hwn.

30Yna Iosuah a adailadodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal,

31Megis y gorchymynnase Moses gwâs yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn scrifennedic Exod.20.25.|EXO 20:25. Deut.27.5yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerric cyfan y rhai ni dderchafasid haiarn arnynt: a hwynt a offrymmasant arni boeth offrymmau i’r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.

32Ac efe a scrifennodd yno ar y meini adfynegiad cyfraith Moses yr hon a scrifennase efe yng-ŵydd meibion Israel.

33A holl Israel ai henuriaid, ei swyddogion hefyd, ai barn-wŷr oeddynt yn sefyll o bob parth i’r Arch ger bron y Lefiadaidd offeiriaid y rhai oeddynt yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a’r priodor: ei hanner ar gyfer mynydd Garizim, ai hanner ar gyfer mynydd Ebal: Deut.11.29. & 27.12fel y gorchymynnase Moses gwâs yr Arglwydd fendithio pobl Israel o’r blaen.

34Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith, a’r felldith: yn ôl y cwbl a’r sydd scrifennedic yn llyfr y gyfraith.

35Nid oedd air o’r hyn oll a scrifennase Moses, a’r nas darllenodd Iosuah ger bron holl gynnulleidfa Israel, Deut.31.12.a’r gwragedd a’r plant, a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysc hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help