Ecclesiasticus 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.Bod bai wrth brynu a gwerthu. 5 Y modd y mae adnabod dyn. 11 Cynneddf y ffol. 16 Brynted yw dadcuddio cyfrinach. 27 Bod drygioni dyn yn dy­fod arno ei hun.

1O Achos peth cyffredinol y pechodd llawer: a’r 1.Tim.6.9. Dihar.26.4.hwn sydd yn ceisio cael amldra a drŷ ei olwg ymmaith.

2Rhwng cysswlt cerrig y gyrrir gwanas, a rhwng prynu a gwerthu yr ymwthia pechod.

3Oni ddeil efe yn ofn yr Arglwydd yn ddiwyd, ebrwydd y dimstrir ei dŷ ef.

4Wrth escwyd y gogr yr erys y brynti, felly anrhaith dŷn yn ei ymrysymmiad ef.

5Y ffwrn sydd yn profi llestri pridd, Dihar.27.21.felly y mae profedigaeth dŷn yn ei ymadrodd ef.

6Ei Matth.7.17.ffrwyth a ddengys goleddiad y pren, felly y gwna traethiad y meddwl yng-halon dŷn.

7Na chanmol ŵr cyn ymma­drodd: oblegit dyna brofedigaeth dŷn.

8Os dilyni di gyfiawnder ti ai goddiweddi hi, ac ai gwisci hi fel gwisc laes ogoneddus.

9Adar a arhoasant gyd âi cyffelyb, a’r gwirionedd a drŷ at y rhai a weithiant.

10Fel y cynllwyn llew i helfa, felly y gwna pechod i’r rhai a weithredant ddrygioni.

11Traethiad y duwiol sydd bob amser am ddoethineb, a’r angall a newidia fel lleuad.

12Ym mysc yr ansynhwyrol cadw amser, a thyret yn fynych i fysc y rhai pwyllog.

13Baich yw traethiaid ffyliaid, ai chwerthiniad fydd am ddigrifwch pechod.

14 Pen.23.9.10. Ymadrodd yr hwn a dyngo lawer a wna i’r gwallt godi, ac ymsywyn y cyfryw a wna gaeu clustiau.

15Ymsywyn beilchion a bair gelanedd, ai difenwad hwynt sydd flin ei chlywed.

16Yr hwn Pen.19.10.|SIR 19:10 & 22.22.sydd yn dadcuddio cyfrinach a gollodd ei gredyniaeth, ac ni chaiff efe gyfaill wrth ei fodd.

17Hoffa gyfaill, a gwna yn ffyddlon ag ef.

18Eithr os dadcuddi di ei gyfrinach ef, na ddilyn ar ei ôl ef.

19Oblegit megis y mae dŷn yn difetha ei elyn, felly y mae efe yn difetha ei gymmydog.

20Ac fel pe gollynge gŵr aderyn oi law, felly y gollyngaist dy gymmydog ac ni’s deli ef.

21Na chanlyn ef: oblegit y mae efe ym mhell, ac wedi ffoi fel iwrch o fagl.

22O blegit fe a ellir iachau archoll, ac y mae cymmod am ddifenwad.

23Eithr yr hwn a ddadcuddiodd gyfrinach a gollodd gredyniaeth.

24Y mae Dihar.10.10.yr hwn sydd yn amneidio ai lygad yn adailadu drŵg, a’r hwn ai hadwaeno ef a gilia oddi wrtho ef.

25Efe a wna ei enau yn swyn yn dy ŵydd di, a rhyfedd fydd ganddo ef dy ymadrodd di: wedi hynny efe a drŷ ei chwedl, ac a fwrw fai ar dy ymadrodd di.

26Llawer a gaseais i ar ni welwn ddim tebyg iddo ef: yr Arglwydd hefyd ai casaodd

27Y neb sydd yn taflu carreg yn vchel sydd yn ei thaflu hi ar ei ben ei hun: a dyrnod tywyllodrus a wahana ar choll.

28 Psal.7.15. Dihar.26.27. Preg.10.8. Yr hwn a glodio ffôs a syrth ynddi hi.

29A’r hwn a osodo rwyd a ddelir â hi.

30Yr hwn a wnelo ddrwg, arno ef yr erys efe: ac ni chaiff efe ŵybod o ba le y mae efe yn dyfod iddo ef.

31Gwatwargerdd, a dannodedd y beilchion, a dialedd a gynllwyn iddynt hwy fel llew.

32Mewn magl y delir y rhai ydynt yn llawen ganddynt syrthio y rhai duwiol, a chyn eu marwolaeth y treulia gofid hwynt, digter, a llid: ffiaidd hefyd yw ’r pethau hyn, a’r pethau hyn y bydd gŵr pechadurus meddiannol o honynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help