Gweithredoedd yr Apostolion 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.Araith Tertulus, a’r Iddewon. 10 Atteb Paul iddynt, Phelix yn oedi gwrando y cwbl, ac yn rhoddi Paul yn y carchar.

1Ac yn ôl pum nhiwrnod y daeth Ananias yr arch-offeiriad i wared, a’r henuriaid, ac vn Tertulus areith-wr gyd ag ef, ac a ymddangosasant ger bron y rhaglaw yn erbyn Paul.

2Ac wedi ei alw ef, Tertulus a ddechreuodd achwyn rhagddo ef, gan ddywedyd,

3Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr (ô ardderchoccaf Phelix) a gwneuthur llawer a ddaioni i’r genhedlaeth hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn cwbl gydnabod hyn oll ym mhob man, gŷd â phob diolch.

4A rhac i mi dy attal yn rhy-hir, yr ydwyfi yn deisyf arnat o’th hynawsedd, wrando arnom ychydig.

5O blegit nyni a gawsom y gŵr hwn yn blâ, ac yn cyfodi terfysc ym mysc yr holl Iddewon drwy y byd, ac yn bē ar sect y Nazareniaid.

6Yr hwn a fynnase halogi y Deml hefyd, ac a ddaliasom ni, ac a fynnasem ei farnu yn ôl ein cyfraith,

7Eithr Lysias y pen-capten a ddaeth rhyngom ni ag ef, a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni:

8Ac a archodd iw gyhudd-wŷr ddyfod ger dy fron di, gan yr hwn (os mynni ymofyn) y gelly gael gŵybod dy hun yr holl bethau hyn o’r rhai yr ydym ni yn achwyn rhagddo ef.

9A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd, fod y pethau y modd hynny.

10Ac yna yr attebodd Paul wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, gan i mi ŵybod dy fod ti yn farn-wr lawer o flynyddoedd i’r genedl hon, mi am handdeffynnaf fy hun yn hyfach.

11Canys ti a elli ŵybod nad oes tros deuddec diwrnod er pan aethym i fynu i addoli yn Ierusalem.

12Ac ni chawsant fi yn y Deml yn ymddadleu â neb, nac yn gwneuthur cyffro ar y dyrfa yn y Synagogau, nac yn y ddinas.

13Ac ni allant brofi y pethau y maent yn achwyn arnaf am danynt.

14Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffessu i ti, mai (yn ôl y ffordd a alwant yn hersi) felly yr wyf yn addoli Duw fy nhadau, gan gredu yn yr holl bethau sy scrifennedic yn y ddeddf a’r prophwydi:

15Ac yn gobeithio ar Dduw, y bydd adgyfodiad y meirw (yr hyn y maent hwy hefyd yn edrych am dano) i’r cyfiawnion, ac i’r angyfiawnion.

16Ac am hyn yr wyf fi yn ymegnio, cael o honof gydwybod lân yn oestad tu ag at Dduw a dynion.

17Ac yn ôl llawer o flynyddoedd y daethym i roddi eluseni i’m cenhedlaeth, ar offrymmau:

18Yn hyn rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant wedi fyng-lanhau yn y Deml, nid gyd â thorf na therfysc.

19Y rhai hyn a ddylasent fod o’th flaen di i achwyn, pe buase ganddynt ddim i’m herbyn.

20Neu dyweded y rhain ymma, a gawsant hwy ddim anghyfiawn ynof, tra ydwyt yn sefyll o flaen y cyngor,

21Eithr yr vn llef hon, a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu mysc hwynt: am adgyfodiad y meirw i’m gelwir heddyw gennwch i farn.

22Pan glybu Phelix y pethau hyn, efe a’u hoedodd hwynt heibio: gan ddywedyd: pan gaffwyf fi ŵybod yn well berthynasau y ffordd hon, wedi i Lysias y pencapten ddyfod i wared, mi a fynnaf ŵybod eich matter chwi.

23Ac efe a archodd i’r Canwriad gadw Paul, a gadel iddo gael esmwythdra, ac na lesteirie neb o’r eiddo ef iw wasanaethu, ac i ddyfod atto ef.

24Ac yn ôl talm o ddyddiau, y daeth Phelix gyd â’i wraig Drusilla yr hō ydoedd Iddewes, ac a alwodd am Paul, ac a’i gwrandawodd ef yng-hylch y ffydd yr hon yng-Hrist.

25Ac fel yr oedd efe yn traethu, am gyfiawnder, a diweirdeb, a’r farn a fydd, Phelix a ofnodd ac a attebodd: dos ymmaith tros hyn: eithr pan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf am danat.

26Ac yr oedd efe yn gobeithio hefyd y cae efe arian gan Paul er ei ollwng, o herwydd pa ham efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.

27Ac wedi darfod dwy flynedd y daeth Porcius Ffestus yn lle Phelix: a Phelix yn ceisio ennill bodd yr Iddewon a adawodd Paul yn rhwym.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help