1A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd ôl ynol, yna Dafydd a ofynnodd gyngor ger bron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a ddywedodd, o herwydd Saul, ac o herwydd dŷ gwaedlyd o blegit lladd o honaw ef y Gibeoniaid.
2Yna yr brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd a hwynt: (a’r Gibeoniaid hynny nid o feibion Israel, onid Iosu.9.3.o weddill yr Amoriaid, a meibion Israel a dyngasent iddynt hwy, etto Saul a geisiodd eu lladd hwynt oi serch i feibion Israel, ac Iuda. )
3A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid beth a wnaf i chwi? ac a pha beth y gwnaf iawn, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr Arglwydd?
4A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho ef, ni fynnwn ni arian, nac aur gan Saul, na chan ei dŷ ef, ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel: ac efe a ddywedodd, yr hyn a ddywedoch chwi a wnaf i chwi.
5Yna y dywedasant hwy wrth y brenin, y gŵr yr hwn a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni: ei’n dinistriwyd ni rhac sefyll yn vn o derfynau Israel,
6Rhodder i ni saith o wŷr oi feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r Arglwydd yn Gibea Saul (ô ddewisedic yr Arglwydd: ) a dywedodd y brenin, myfi ai rhoddaf.
7Ond y brenin a dosturiodd wrth Mephiboseth fab Ionachan, fab Saul: o herwydd 1.Sam.18.3.llŵ yr Arglwydd yr hwn rhyngddynt hwy rhwng Dafydd, ac Ionathan mab Saul.
8A’r brenin a gymmerth ddau fab Rispha merch Aia y rhai a ymddug hi i Saul Armoni a Mephiboseth: a phum mab Michol merch Saul y rhai a blantodd hi i Adriel fab Barzelai y Maholathiad.
9Ac efe ai rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid, ac hwynt ai crogasant hwy yn y mynydd ger bron yr Arglwydd, a’r saith hyn a gyd gwympasant: a hwynt a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf cynhaiaf, yn nechreuad cynhaiaf yr haidd.
10Yna Rispha merch Aia a gymmerch sach-liain, ac hi ai hestynnodd ef iddi ai y graig o ddechreu y cynhaiaf nes defêru dwfr arnynt hwy o’r nefoedd: ac ni adawodd hi i ehediaid y y nefoedd orphywys arnynt hwy y dydd, na bwyst-fil y maes liw nôs.
11A mynegwyd i Ddafydd yr hyn a wnaethe Rispha merch Aia gordderch wraig Saul.
12Yna yr aeth Dafydd, ac a ddûg escyrn Saul, ac escyrn Ionathan ei fab ef oddi wrth berchennogion Iabes Gilead: y rhai ai lledratasent hwy o heol Bethsan yr hon 1.Sam.31.10.y crogafe y Philistiaid hwynt ynddi, y diwrnod y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.
13Felly y dûg efe i fynu oddi yno escyrn Saul, ac escyrn Ionathan ei fab ef: a hwynt a gasclasant escym y rhai a grogasid.
14A hwynt a gladdasant escyrn Saul, ac Ionathan ei fab yng-wlad Beniamin yn Zela ym meddrod Cis ei dad, a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchymynnase yr brenin: a bu Duw yn fodlon i’r wlâd ar ôl hyn.
15A bu eil-waith ryfel rhwng y Philistiaid, ag Israel: a Dafydd a aeth i wared at weision gyd ag ef, ac hwy a ymladdasant a’r Philistiaid, a deffygiodd Dafydd.
16Yna Iesbibenob yr hwn o feibion rhyw gawr, (a phwys ei waiwffon ef yn drychant sicl o brês) ac efe oedd wedi ei wregysu newydd, a feddyliodd ladd Dafydd.
17Ond Abisai mab Serfia ai helpiodd ef, ac a darawodd y Philistiad, ac ai lladdodd ef: yna gwyr Dafydd a dyngasant wrtho ef gan ddywedyd, nid ei di allan mwyach gyd a ni i ryfel, rhac it ddiffoddi goleuni Israel.
18Ac ar ôl hyn fe fu eil-waith ryfel yn 1.Cron.20.4.Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husiad a laddodd Saph yr Hwn o feibion y cawr.
19A bu etto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab 1.Cron.20.5.Iaere Dregim y Bethlehemiad a darawodd Goliath y Gethiad, a phren ei waiw-ffon ef fel carfan gwehydd.
20A bu etto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corphol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, sef pedwar ar hugain o rifedi, efe hefyd fab i’r cawr.
21Ac efe a amharchodd Israel: ac Ionathan mab 1.Sam 16.9.Simea brawd Dafydd ai lladdodd ef.
22Y pedwar hyn a aned i’r cawr o Gath: a chwympasant drwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.