Amos 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.1 Dialedd Duw am bechodau Israel. 11 Duw oi drugaredd yn arbed ei bobl.

1Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor, ac efe a ddywedodd, taro gappan y ddôr, a’r gorsingau a escydwant, a dryllai hwynt oll yn eu pen blaen: minnef a laddaf a’r cleddyf yn ôl, ni ffy o honynt a geisio ffoi, ac ni ddiangc o honynt a geisio ddiangc.

2Pe chloddiēt hyd vffern, i fy llaw ai tynne hwynt oddi yno, a phe dringent i’r nefoedd, mi ai descynnwn hwynt oddi yno.

3A phe llechent ar benn Carmel, chwiliwn a chymmerwn hwynt oddi yno, a phe ymguddient o’m golwg yng-waelod y môr gorchymynwn i’r sarph eu brathu hwynt oddi yno.

4Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno gorchymynnaf i’r cleddyf, ac efe ai lladd hwynt: a gosodaf fyng-olwg yn eu herbyn, er drygioni, ac nid er daioni

5Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd a’r ddaiar, a hi a dawdd: a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a fod dir megis afon yr Aipht.

6Yr hwn a adailadodd yn y nefoedd ei gylchau, ac a sylfaenodd ar y ddaiar ei gasol yr hwn a alwodd ddyfroedd y môr, ac ai tywalltodd ar wyneb y ddaiar, yr Arglwydd ei enw.

7Onid chwi meibion Israel i mi fel meibion yr Ethiopiaid, medd yr Arglwydd? oni ddygais i fynu feibiō Israel o dîr yr Aipht, a’r Philistiaid o Ierem.47.4Cappadocia, a’r Syriaid o Cirene?

8Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus, ac mi ai difethaf oddi ar wyneb y ddaiar: ond ni ddifethaf dŷ Iacob, medd yr Arglwydd.

9Canys wele myfi a orchymynnaf, ac a ogrynnaf dŷ Israel ym mysc yr holl genhedloodd: fel y gogrynnir ŷd mewn gogr ac: ni syrth graienyn i’r llawr.

10Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw ar y cleddyf, y rhai a ddywedant, ni ddaw drwg yn agos attom, ac ni ddwg ein blaen.

11Y dydd hwnnw y codaf babell Ddafydd yr hon a syrthiodd, mi a gaeaf ei bylchau, Act.15.16.ac a godaf ei hadwyau, ac ai hadailadaf fel yn y dyddiau gynt.

12Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt weddill Edom, a’r holl genhedloedd medd yr Arglwydd, yr hwn a wna hyn.

13Wele y dyddiau a ddaw medd yr Arglwydd y cyffwrdd yr ardd-wr a’r cynhaiaf-wr, Lefit.26.5.a sathrudd y grawn-wîn a’r hau-wr, a’r mynyddoedd a ddafnynnant felys-win, Ioel.3.18.a’r holl frynnau a doddant.

14A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel, ac adailadant y dinasodd anghyfannedd, a phresswyliant, a phlannant winllānoedd, ac yfant oi gwîn hwynt, gwnant hefyd erddi, a bwyttânt eu ffrwyth hwynt.

15Ac mi ai plannaf hwynt yn y tîr, ac ni’s diwreiddir hwynt mwyach oi tîr yr hwn a roddais i iddynt medd yr Arglwydd dy Dduw.

Terfyn llyfr Amos.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help