1Pan glybu meibion Israel y rhai oeddynt yn presswylio yn Iuda yr hyn oll a’r a wnaethe Holophernes tywysog llu Nabuchodonosor brenin yr Assyriaid i’r cenhedloedd, ac fel yr anrheithiase efe eu holl demlau hwynt, ac y destruwiase efe hwynt,
2Yna hwynt a ofnasant yn ddirfawr rhagddo ef, ac a gyffroasant o herwydd Ierusalem, ac o herwydd Teml yr Arglwydd eu Duw hwynt,
3Canys newydd ddyfod i fynu oeddynt hwy o’r caethiwed, ac yn ddiweddar yr ymgasclase yr holl bobl i Iuda, ac y sancteiddiasid y llestri, a’r allor, a’r tŷ o’r halogedigaeth.
4Am hynny hwy a anfonasant i holl ar daloedd Samaria, a’r pentrefydd, ac i Bethoro, a Belmen, ac Iericho, ac i Choba, ac Esora, ac i ddyffr yn Salem,
5Ac a gymmerasant bennau y mynyddoedd vchel, ac a furiasant y pentrefydd y rhai oeddynt ynddynt, ac a osodasant llynniaeth yn ymborth erbyn rhyfel: canys yn ddiweddar y medasid eu meusydd hwynt.
6Ioacim hefyd yr arch-offeiriad yr hwn ydoedd yn y dyddiau hynny a scrifennodd at y rhai oeddynt yn trigo yn Bethulia, a Betomestham, yr hon sydd ar gyfer Esdraelon gyferbyn a’r maes amlwg yr hwn sydd yn gyfagos i Dothaim,
7Gan ddywedyd am gadw bylchau y mynyddoedd: canys drwyddynt hwy yr ydoedd dyfodfa i Iuda, ac yr ydoedd yn hawdd eu lluddies hwynt i ddyfod yno, o herwydd y bwlch ydoedd gyfyng i ddau ŵr o’r mwyaf.
8A meibion Israel a wnaethant fel y gorchymynnase Ioacim yr arch-offeiriaid iddynt, a henuriaid holl bobl Israel, y rhai oeddynt yn trigo yn Ierusalem.
9Yna holl wŷr Israel a waeddasant ar Dduw yn ddifrifol iawn, ac a gystuddiasant eu heneidiau drwy ddyfalrwydd mawr.
10Hwynt hwy, ai gwragedd, ai plant, ai hanifeiliaid a phôb dieithr, a gwâs cyflog, a gweision pryn a osodasant sach-liain am eu lwynau.
11Fel hyn pôb gŵr a gwraig, a’r plant, a thrigiolion Ierusalem a syrthiasant o flaen y Deml, ac a danâsant ludw ar eu pennau, ac a ledâsant eu sach-liain ger bron yr Arglwydd: a hwynt a wiscasant yr allor â sach-liain,
12A hwynt a waeddâsant ar Dduw Israel eu gyd oll o vn frŷd yn ddyfal, ar na rodde efe eu plant hwy yn sclyfaeth, ai gwragedd hwy yn anrhaith, a dinasoedd eu hetifeddiaethau hwynt yn ddestruw: a’r cyssegr yn halogedigaeth, ac yn wradwydd, ac yn watwargerdd gan y cenhedloedd.
13Felly Duw a wrandawodd ar eu gweddi hwynt, ac ai gwaredodd hwynt oi blinder: canys y bobl a ymprydiâsant ddyddiau lawer drwy holl Iuda, ac Ierusalem o flaen cyssegr yr Arglwydd holl-alluoc.
14Ac Ioacim yr arch-offeiriad, a’r holl offeiriaid y rhai oeddynt yn sefyll ger bron yr Arglwydd, ac yn gweini i’r Arglwydd oeddynt wedi gwregysu eu lwynau â sach-liain, ac yn offrymmu poeth offrwm gwastadol, a gweddiau ac offrymmau gwir-fodd y bobl, ac yr oedd lludw ar eu meitrau hwynt.
15A hwynt a waeddasant ar yr Arglwydd âi holl nerth, ar iddo ef ymweled yn rasol â holl dŷ Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.