1Yna y troesom ac y cychwnnasom i’r anialwch ffordd y môr côch fel y dywedase yr Arglwydd wrthif: ac a amgylchasom fynydd Seir ddydiau lawer.
2 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthif gan ddywedyd:
3 Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn ymchwelwch rhagoch tua’r gogledd.
4A gorchymyn i’r holl bobl gan-ddywedyd: chwy chwi ydych ar dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, a hwyntau a ofnant rhagoch, ond ymgedwch yn ddyfal.
5Na chyffroiwth hwynt o herwydd ni roddaf i chwi oi tir hwynt gymmeint a lled gwadn troed: Genes.36.8.canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir.
6Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwyttaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
7Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law, gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlhynedd hyn yr Arglwydd dy Dduw gyd a thi, ni bu arnat eisie dim.
8Yna y tramwyasom oddi wrth ein brodyr meibion Esau y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhôs, o Elath, ac o Ezion-gaber, ac a ddychwelasom fel y tramwyem ar hyd ffordd anialwch Moab.
9Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, na orthrymma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt, o blegit ni roddaf it feddiant oi dîr ef: o herwydd i feibion Lot, y rhoddais Ar yn etifeddiaeth.
10Yr Emiaid o’r blaen a gyfaneddasant ynddi: pobl fawr, ac aml, ac vchel fel yr Anaciaid.
11Yn gawri y cymmerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid, a’r Moabiaid ai galwasant hwynt yn Emiaid.
12Yr Horiaid hefyd a bresswyliasant yn Seir o’r blaen, a meibion Esau ai gorescynnasant, ac ai difethasant oi blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt, fel y gwnaeth Israel i wlâd ei etifeddiaeth yntef, yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt.
13[Yna y dywedais] cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch tros afon Num.21.12.Zared: ac nyni a aethom tros afon Zared.
14A’r dyddiau y rhai y cerddasom o Cadesbarnea, hyd pan ddaethom tros afon Zared onid dwy flwyddyn deugain, nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwerssyllau, fel y tyngase ’r Arglwydd wrthynt.
15Canys llaw’r Arglwydd ydoedd hefyd yn eu herbyn hwynt iw torri hwynt o ganol y gwerssyll hyd oni ddarfuont.
16A bu wedi darfod yr holl ryfel-wŷr, gan eu marw o blith y bobl,
17Yna lefaru o’r Arglwydd wrthif gan ddywedyd:
18Ty di heddyw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef Ar.
19Pan ddelech di gyferbyn a meibion Ammon, na orthrymma hwynt, ac nac ymgynnull yn eu herbyn hwynt, o blegit ni roddaf feddiant o dîr meibion Ammon i ti, canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
20Yn wlâd cawri hefyd y cyfrifwyd hi, cawri a bresswyliasant ynddi o’r blaen: a’r Ammoniaid ai galwent hwynt Zamzumiaid.
21Pobl fawr, ac aml, ac vchel fel yr Anaciaid, a’r Arglwydd ai difethodd hwynt, oi blaen hwy, a hwynt ai gorescynnasant, ac a drigasant yn eu lle hwynt.
22Fel y gwnaeth i feibion Esau y rhai ydynt yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid oi blaen, fel y gorescynnasant hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt hyd y dydd hwn.
23Felly yr Afiaid y rhai oeddynt yn trigo yn Hazarim, hyd Azza, y Caphthoriaid y rhai a ddaethant allan o Caphthor ai difethasant hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.
24Cyfodwch, cychwnnwch, ac ewch tros afon Arnon: wele rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon yr Amorriad, ai wlâd ef, dechreu orescyn, ai gyffroi ef i ryfel.
25Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd, a’th ofn di ar y bobloedd tann yr holl nefoedd, y rhai a glywant dy henw di a ddychrynant, ac a lescaant rhagot ti.
26Yna’r anfonais gennadau o anialwch Cademoth at Sehon brenin Hesbon geiriau heddwch, gan-ddywedyd:
27 Num.21.22. Gâd i mi fyned trwy dy wlâd ti, ar hŷd y briffordd y cerddaf, ni chiliaf i’r tu dehau, nac i’r tu asswy.
28Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwyttawyf, a dyro ddwfr am arian i mi fel yr yfwyf, ar fy nrhaed yn vnic y trammwyaf,
29(Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, a’r Moabiaid y rhai ydynt yn trigo yn Ar) hyd onid elwyf tros yr Iorddonen i’r wlad yr hon y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.
30Ond ni fynne Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law, o blegit yr Arglwydd dy Dduw a galedase ei yspryd ef, ac a gadarnhause ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di, megis heddyw
31A’r Arglwydd a ddywedodd wrthif, wele dechreuais roddi Sehon, ai wlâd ef o’th flaen di, dechreu di gan orescyn orescynnu ei wlâd ef.
32 Num.21.13. Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe ai holl bobl i ryfel Iasa.
33Ond yr Arglwydd ein Duw, ai rhoddes ef o’n blaen, fel y tarawsom ef, ai feibion, ai holl bobl ef.
34Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant, ni adawsom weddill.
35Ond sclyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac yspail y dinasoedd y rhai a ennillasom.
36O Aroer, yr hon ar fîn afon Arnon, a’r ddinas yr hon ar yr afon, ac hyd at Gilead, ni bu ddinas a’r a ddiangodd rhagom: yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni.
37Er hynny ni ddaethost i dîr meibion Ammon, holl lann afon Iabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i’r holl y rhai a orchymynnase yr Arglwydd ein Duw [na ddelem iddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.