Exodus 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Duw yn dangos pa lê oref i’r bobl werssyllu. 4 Pharao yn erlid Israel. 10 Israel yn tuchan rhac ofn. 21 y mor yn sychu i ollwng plant Israel trwyddo. 24 Ac yn boddi yr Aiphtiaid.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.

2Dywet wrth feibion Israel a’m ddychwelyd a gwerssyllu o flaen Num.33.7.Pihahiroth rhwng Migdol a’r môr: o flaen Baal-Sephon, ar ei chyfer y gwerssyllwch wrth y môr.

3Canys dywed Pharao am feibion Israel rhwystrwyd hwynt yn y tîr: chaeodd yr anialwch arnynt.

4A mi a galedaf galon Pharao fel yr ymlidio ar eu hol hwynt, felly i’m gogoneddir i o herwydd Pharao, ai holl fyddin, a’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi Arglwydd: ac felly y gwnaethant.

5Pan fynegwyd i frenin yr Aipht ffôi o’r bôbl: yna y trôdd calon Pharao ai weision yn erbyn y bôbl, a dywedasant, beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu?

6Ac efe a daclodd ei gerbyd ac a gymmerodd ei bôbl gyd ag ef.

7A chymmerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aipht a chaptenniaid ar bôb vn o honynt.

8Canys yr Arglwydd a galedase galon Pharao brenin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan a llaw vchel.

9A’r Iosu 24.6.|JOS 24:6. 1.Macab.4.9.Aiphtiaid a ymlidiasant a’r eu hôl hwynt holl feirch, cherbydau Pharao ai wŷr meirch, ai fyddyn, ac ai goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr: ger llaw Pihahiroth o flaen Baal-sephon.

10Pan nessaodd Pharao: yna meibion Israel a godasant eu golwg, ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod a’r eu hol, a meibion Israel a ofnasant yn ddirfawr, ac a waeddasant a’r yr Arglwydd.

11A dywedasant wrth Moses, ai a’m nâd oedd beddau yn yr Aipht y dygaist ni i farw yn yr anialwch? pa ham y gwnaethost fel hyn a ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?

12Ond dymma y peth yr hwnn a lefarasom wrthit yn yr Aipht? gan ddywedyd, paid a ni, fel y gwasanaethom yr Aiphtiaid: canys gwell fuase i ni wasanaethu’r Aiphtiaid na marw yn yr anialwch.

13Yna a ddywedodd Moses wrth y bôbl nac ofnwch, sefwch ac edrychwch a’r iechydwriaeth yr Arglwydd yr hwn a wnaiff efe i chwi heddyw: o blegit yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw ni chewch eu gweled byth ond hynny.

14Yr Arglwydd a ymladd trosoch: a’m hynny tewch a sôn.

15A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, pa ham y gweiddi arnaf? dywet wrth feibion Israel a’m gerdded o honynt rhacddynt.

16A chyfot tithe dy wialen ac estyn dy law a’r y môr a hollt ef: ac aed meibion Israel trwy ganol y môr a’r dîr sych.

17Wele fi, ie myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid fel y deuant ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir o herwydd Pharao, ac o herwydd ei holl fyddin ef, o herwydd ei gerbydau ef, ac o herwydd ei farchogion.

18Yna’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd: pan i’m gogoneddir o herwydd Pharao, o herwydd ei gerbydau, ac o herwydd ei farchogion.

19Ac angel Duw yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel a symmudodd, ac a aeth oi hôl hwynt: a’r golofn niwl a aeth ymmaith oi tu blaen hwynt, ac a safodd oi hôl hwynt.

20Ac efe a ddaeth rhwng byddin yr Aiphtiaid a byddin Israel, ac yr ydoedd yn niwl, ac yn dywyllwch ac yn goleuo y nôs ac ni nessaodd y naill at y llall ar hyd y nôs.

21A Moses a estynnodd ei law ar y môr, a’r Arglwydd a yrrodd y môr trwy ddwyrein-wynt crŷf ar hyd y nôs, ac a osododd y môr yn sychdir: a holltwyd y dyfroedd.

22Yna Iosu.4.23.|JOS 4:23. Psal.14.3. 1.Cor.10.1. Hebr.11.29.meibion Israel a aethant trwy ganol y môr a’r dir sych: a’r dyfroedd yn fûr iddynt o’r tu dehau ac o’r tu asswy.

23A’r Aiphtiaid a erlidiasant, ac a ddaethant a’r eu hol hwynt, holl feirch Pharao ai gerbydau, ai farchogion i ganol y môr.

24Ac ar yr wyliadwriaeth foreuol, yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid o’r golofn dân a niw: ac a derfyscodd fyddin yr Aiphtiaid.

25Canys efe a dynnodd ymmaith olwynion ei gerbydau ef, ac ai dûg ef yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid ni a ffoiwn oddi wrth Israel, o blegit yr Arglwydd sydd yn ymladd trostynt hwy yn erbin yr Aiphtiaid.

26Yna’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses estyn dy law ar y môr: fel y dychwelo y dyfroedd ar yr Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27A Moses a estynnodd ei law ar y môr, a dychwelodd y môr cynn y borau iw nerth, a’r Aiphtiaid a ffoasant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ymchwelodd yr Aiphtiaid yng-hanol y môr.

28Felly y dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchguddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharao, y rhai a ddaethent ar eu hol hwynt i’r môr: ni adawyd o honynt gymmeint ag vn.

29Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych trwy ganol y môr: a’r dyfroedd yn fûr iddynt, ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy.

30Felly’r Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law’r Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fin y môr.

31A gwelodd Israel y grymmuster mawr yr hwn a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Aiphtiaid, a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd ac iw wâs ef Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help