1Diau fod gwythien i’r arian: a lle i’r aur a doddant hwy.
2Haiarn a dynnir allan o’r prîdd: ac o’r garreg y toddir prês.
3[Duw] sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd: y meini tywyllwch, a chyscod angeu.
4Y mae yr afonydd yn torri allan yn erbyn y trigolion, dyfnion vwch na dyn a giliasant.
5Y ddaiaren o’r hon y daw bara allan, y croiwyd megis tân tani.
6Ei cherrig hi lê i Saphir: ai phriddellau yn aur.
7Llwybr nid adnabu aderyn ef: ac ni chanfu llygad barcud ef.
8Yr hwn ni sathrodd cenawon llew: nid aeth hên lew trosto ef.
9Y mae efe yn estyn ei law ac y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd.
10Y mae efe yn peri afonydd dorri allan o’r creigiau: ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.
11Y mae efe yn rhwymo’r afonydd rhag llifo: ac y mae efe yn dwyn dirgelwch allan i’r goleuni.
12O ba le gan hynny y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?
13Ni ŵyr dŷn beth a dâl hi: ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.
14Y mae’r dyfnder yn dywedyd, nid hi ynofi: ac y mae’r môr yn dywedyd, nid gyd a myfi.
15Ni cheir hi er aûr pûr: ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.
16Ni chyffelybir hi i’r aur o Ophir: nac i’r Onix gwerthfawr, nac i’r Saphyr.
17Nid aur nac Adamant ai cystadla hi: na llestr o aur dilin gydwerth iddi.
18Ni chofir y Cwrel, na’r Gabis, canys caffaeliad doethineb na gemmau.
19Ni ellir cyffelybu y Topaz o Ethiopia iddi hi: ni chyd-brissir hi ag aur pûr.
20Gan hynny o ba lê y daw doethineb? a pha lê y mae mangre deall?
21Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dŷn byw: a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.
22Colledigaeth, a marwolaeth sydd yn dywedyd: ni a glywsom a’n clustiau sôn am dani hi.
23Duw sydd yn deall ei ffordd hi: ac efe a edwyn ei lle hi.
24Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaiar: y mae efe yn gweled dann yr holl nefoedd.
25Wrth wneuthur pwys i’r gwynt: pan bwysodd efe y dyfroedd mewn messur.
26Pan wnaeth efe derfyn i’r glaw: a ffordd i fellt tarânau.
27Yna efe ai gwelodd hi, ac ai mynegodd hi: efe ai paratodd hi, a hefyd efe ai chwiliodd hi allan.
28Ac wrth ddŷn efe a ddywedodd, wele ofn Duw sydd ddoethineb: a chilio oddi wrth ddrwg sydd ddeall.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
