1Ac i Ahab deng-mab a thrugain yn Samaria: ac Iehu a scrifennodd lythŷrau, ac a anfonodd Samaria at dywysogion Iezrahel, at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab gan ddywedyd.
2Ac yn awr pan ddêl y llythr hwn attoch chwi (canys gyd a chwi meibion eich arglwydd, a chennwch chwi cerbydau, a meirch, a dinasoedd caeroc, ac arfau)
3Yna edrychwch yr hwn sydd oref, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ar deyrn-gader ei dad: ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd.
4A hwynt a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, wele y ddau frenin hynny ni safasant oi flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?
5Am hynny’r anfonodd yr hwn ar dŷ a’r hwn ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod at Iehu gan ddywedyd, dy weision di ydym ni, a’r hyn oll a ddywedech di wrthym ni a wnawn ni: ni wnawn ni neb yn frenin, gwna’r hyn a fyddo dâ yn dy olwg.
6Yna efe a scrifennodd yr ail llythr attynt hwy gan ddywedyd, os eiddo fi fyddwch chwi, ac ar fy llais i y gwrandewch, cymmerwch bennau holl feibion eich arglwydd, a deuwch attafi y pryd hyn y foru i Iezrahel: a meibion y brenin, deng-wr a thrugain gyd a phennaethiaid y ddinas, y rhai oeddynt yn eu maethu hwynt.
7A phan ddaeth y llythr attynt hwy, yna hwy a gymmerasant feibion y brenin, ac a laddasant y deng-wr a thrugain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn bascêdau, ac ai danfonasant hwy atto ef i Iezrahel.
8Yna y gennad a ddaeth, ac a fynegodd iddo ef gan ddywedyd, hwynt a ddugasant bennau meibion y brenin: dywedodd yntef, gosodwch hwynt yn ddau ben-twr wrth drws y porth hyd y boreu.
9A’r boreu efe a aeth allan, ac a safodd, dywedodd hefyd wrth yr holl bobl, byddwch gifiawn: wele myfi a gyd-fwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac ai lleddais ef, ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?
10Gwybyddwch yn awr na syrth o air yr Arglwydd i’r ddaiar yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab: canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe drwy law 1.Bren.21.29.Elias ei wâs.
11Felly Iehu a darawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Iezrahel, ai holl bennaethiaid ef, ai gyfneseiftaid ef, ai offeiriad: fel na adawyd vn yn weddill.
12Ac efe a gyfododd, ac a aeth hefyd, ac a ddaeth i Samaria: efe dy cneifio y bugeiliaid ar y ffordd.
13Ac Iehu a gyfarfu a brodyr Ahazia brenin Iuda, ac a ddywedodd, pwy chwi? dywedasant hwythau, brodyr Ahazia ni, ac ni a ddaethom i wared i gyfarch meibion y brenin, a meibion y frenhines.
14Ac efe a ddywedodd, deliwch hwynt yn fyw, a hwynt ai daliasant hwy yn fyw: ac ai lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, dau-wr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr o honynt.
15Pan aeth efe oddi yno, efe a gyfarfu ag Iehonadab fab Rechab yn cyfarfod ag ef; ac ai cyfarchodd ef, ac a ddywedodd wrtho ef, a yw dy galon di yn inion fel fyng-halon i gyd a’th galon di? a dywedodd Iehonadab, ydyw, od ydyw moes dy law: rhoddodd yntef ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fynu atto i’r cerbyd.
16Ac efe a ddywedodd, tyret gyd a mi, a gwêl fy zêl i tua’r Arglwydd: ac efe a barodd iddo farchogeth yn ei gerbyd.
17Pan ddaeth efe i Samaria, yna efe a darawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef: yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarase efe wrth Elias.
18Yna Iehu a gynhullodd yr holl bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig: Iehu ai gwasanaetha ef lawer.
19Ac yn awr gelwch attafi holl brophwydi Baal, ei holl weision ef, ai holl offeiriaid ef, na fydded vn yn eisieu, canys aberth mawr gennif i Baal, pwy bynnac a fyddo yn eisieu ni bydd efe byw: ond Iehu a wnaeth mewn cyfrwystra, fel y difethe efe weision Baal.
20Ac Iehu a ddywedodd, cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal, a hwynt ai cyhoeddasant.
21Felly Iehu a anfonodd drwy holl Israel, a holl weision Baal a ddaethant, ac ni thrigodd vn yr hwn na ddaethe: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llawnwyd tŷ Baal o ben bwy gilydd.
22Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn ar y gwiscoedd, dwg allan wisc i holl weision Baal: ac efe a ddug y gwiscoedd iddynt hwy.
23Pan ddaeth Iehu i mewn ac Iehonadab mab Rechab i dŷ Baal, yna efe a ddywedodd wrth weision Baal: chwiliwch, ac edrychwch rhac bod ymmagyd a chwi o weision yr Arglwydd, onid gweision Baal yn vnic.
24Felly y daethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoeth offrymmau: ac Iehu a osododd iddo allan bedwar vgain-wr, ac a ddywedodd, enioes y gŵr yr hwn y diango o’r dynion hyn (y rhai yr ydwyfi yn eu dwyn i’ch dwylo chwi) am ei enioes ef.
25A phan orphennodd efe wneuthur y poeth offrwm, yna Iehu a ddywedodd wrth y swyddogion, a’r tywysogion, ewch i mewn a tharewch hwynt, nac eled neb allan, felly hwynt ai tarawsant hwy a mîn y cleddyf: a’r swyddogion, a’r tywysogion ai taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.
26A hwynt a ddugasant allan ddelwau tŷ Baal, ac ai lloscasant hwy.
27A hwynt a ddestruwiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac ai gosodasant ef yn dommen hyd heddyw.
28Felly y deleodd Iehu Baal allan o Israel.
29Etto am bechodau Ieroboam mab Nabat y rhai y gwnaeth efe i Israel bechu, ni thrôdd Iehu oddi wrthynt hwy y lloi aur y rhai yn Bethel, ac yn Dan.
30A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Iehu, o herwydd it wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd inion yn fyng-olwg i yn ôl yr hyn oll a’r a yn fyng-halon i y gwnaethosti i dŷ Ahab: meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel.
31Ond nid edrychodd Iehu am fyned rhagddo yng-hyfraith Arglwydd Dduw Israel ai holl galon: ni thrôdd efe oddi wrth bechodau Ieroboam y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu.
32Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri ymmaith Israel: a Hazael ai tarawodd hwynt drwy holl derfynau Israel,
33O’r Iorddonen chodiad yr haul holl wlâd Gilead, y Gadiaid, y Rubeniaid hefyd, a’r Manassiaid: o Aroer yr hon wrth afon Arnon, Gilead hefyd a Basan.
34A’r rhan arall o hanes Iehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, ai holl gadernid ef: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?
35Ac Iehu a hunodd gyd ai dadau, a chladdwyd ef yn Samaria: ac Ioachaz ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
36A’r dyddiau y rhai y teyrnasodd Iehu ar Israel yn Samaria, wyth mlynedd ar hugain.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.