Numeri 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Amryw offrymmau, ac aberthau, ac amryw amseroedd.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

2Gorchymyn i feibion Israel, a dywet wrthynt, gwiliwch am offrymmu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd o arogl esmwyth yn ei dymmor.

3A dywet wrthynt Exod.29 38.dymma’r aberth tanllyd yr hwn a offrymmwch i’r Arglwydd: dau oen flwyddiaid berffaith-gwbl yn y dydd, yn boeth offrwm gwastadol.

4Un oen a offrymmi di y boreu, a’r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos.

5A decfed ran Epha o beillied yn Exod.29.40. Lefit.2.1.fwyd offrwm wedi ei gymmyscu trwy bedwaredd ran Hin o olew coethedic.

6[Dymma] y poeth offrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl esmwyth o aberth tanllyd i’r Arglwydd.

7Ai ddiod offrwm bedwaredd ran Hin gyd a phob oen: tywallt dywalltiad diod gref i’r Arglwydd yn y cyssegr.

8Yr ail oen a offrymmi yn y cyfnos: megis bwyd offrwm y boreu, ai ddiod offrwm, yr offrymmi aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

9Ac ar y dydd Sabboth, dau oen blwyddiaid perffaith-gwbl, a dwy ddecfed ran o beillied yn fwyd offrwm wedi ei gymmyscu trwy olew, ai ddiod offrwm.

10Poeth offrwm y Sabboth ar ei Sabboth, heb law y poeth offrwm gwastadol ai ddiod offrwm.

11Ac ar ddechreu eich missoedd yr offrymmwch yn boeth offrwm i’r Arglwydd ddau o fustych ieuaingc, ac vn hwrdd, saith oen blwyddiaid perffaith-gwbl.

12A thair decfed ran o beillied yn fwyd offrwm wedi ei gymmyscu drwy olew gyd a phob bustach, a dwy ddecfed ran o beillied yn fwyd offrwm wedi ei gymmyscu trwy olew gyd a phob hwrdd.

13A phob yn ddecfed ran o beillied yn fwyd offrwm wedi ei gymmyscu drwy olew gyd a phob oen: yn offrwm poeth o arogl esmwyth yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

14Ai diod offrwm fydd hanner Hin gyd a bustach, a thrydedd ran Hin gyd a hwrdd, a phedwaredd ran Hin gyd ag oen, dymma wîn poeth offrwm, mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.

15Ac vn bwch geifr yn bech aberth i’r Arglwydd, heb law y gwastadol boeth offrwm, yr offrymmir ef ai ddiod offrwm.

16Ac yn y mis cyntaf Exod.12.18. Exod.23.15. Lefit.23.5.ar y pedwerydd dydd ar ddec o’r mîs Pasc yr Arglwydd.

17Ac ar y pymthecfed dydd or mîs hwn yr ŵyl: saith niwrnod y bwytteir bara croiw.

18Ar Lefit.23.7.y dydd cyntaf cymanfa sanctaidd, na wnewch ddim caeth-waith.

19Ond offrymmwch yn aberth tanllyd yn boeth offrwm i’r Arglwydd ddau o fustych ieuaingc, ac vn hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith-gwbl.

20Eu bwyd offrwm hefyd o beillied wedi ei gymmyscu drwy olew, tair decfed ran gyd a bustach, a dwy ddecfed ran gyd a hwrdd a offrymmwch chwi.

21Bob yn ddecfed ran yr offrymmwch gyd a phob oen, o’r saith oen.

22Ac vn bwch yn bech aberth, i wneuthur iawn drosoch.

23Heb law poeth offrwm y boreu, yr hwn boeth offrwm gwastadol, yr offrymmwch hyn.

24Fel hyn yr offrymmwch ar dydd o’r saith niwrnod fwyd aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd: heb law y poeth offrwm gwastadol yr offrymmir ef ai ddiod offrwm.

25Ac ar y saithfed dydd, cymanfa sanctaidd fydd i chwi, dim caeth-waith nis gwnewch.

26Ac ar ddydd eich blaen-ffrwythau, pan offrymmoch fwyd offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau, cymanfa sanctaidd fydd i chwi, dim caeth-waith nis gwnewch.

27Ond offrymmwch ddau fustach ieuaingc vn hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boeth offrwm, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

28A eu bwyd offrwm o beillied wedi ei gymmyscu drwy olew: tair decfed ran gyd a phob bustach, dwy ddecfed ran gyd a phob hwrdd.

29Bob yn ddecfed ran gyd a phob oen, o’r saith oen.

30Un bwch geifr i wneuthur iawn trosoch.

31Heb law y poeth offrwm gwastadol, ai fwyd offrwm, yr offrymmwch byddant gennych yn berffaith-gwbl yng-hyd ai diod offrwm.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help