1Fy enaid bendithia’r Arglwydd, a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd.
2Fy enaid, bendithia’r Arglwydd, ac nac anghofia ei holl ddonniau ef.
3Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau: yr hwn sydd yn iachaû dy holl lescedd.
4Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestruw, yr hwn sydd yn dy gorôni â thrugaredd, ac â thosturi.
5Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni: yr adnewydder dy ieuengctid fel yr eryr.
6Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder, a barn i’r rhai gorthrymmedic oll.
7Yspyssodd ei ffyrdd i Moses, ei weithredoedd i feibion Israel.
8Trugarog a gras-lawn Arglwydd: hwyrfrydic i lid, a mawr o drugarogrwydd.
9Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe
10Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe i ni: ac nid yn ôl ein anwireddau y tâlodd efe i ni.
11Canys cyfuwch ac yw’r nefoedd vwch law’r ddaiar y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai ai hofnant ef.
12Cyn belled ac yw’r dwyrain oddi wrth y gorllewyn y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.
13Fel y tosturia tâd wrth ei blant, felly y tosturiodd yr Arglwydd wrth y rhai ai hofnant ef.
14Canys efe a adwaene ein defnydd ni: cofiodd mai llŵch ni.
15Dyddiau dŷn fel glas-welltun: megis blodeun y maes y blodeua efe.
16Pan êl gwynt trosto, yna ni mwy o honaw: ai le nid edwyn ddim o honaw ef mwy.
17Ond trugaredd yr Arglwydd o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb ar y rhai ai hofnant ef:
18Ai gyfiawnder i blant plant y rhai a gadwant ei gyfammod ef: ac a gofiant ei orchymynnion iw gwneuthur.
19Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: ai frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bôb
20Bendithiwch yr Arglwydd ei angelion ef, cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air ef gan wrando ar leferydd ei air ef.
21Bendithiwch yr Arglwydd ei holl luoedd ef: ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys.
22Bendithiwch yr Arglwydd ei holl weithredoedd ef, ym mhob mann oi lywodraeth. Fy enaid bendithia’r Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
