2.Cronicl 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Y dinasoedd y rhai a adailadodd, ac a ennillodd Salomon. 12 ei aberthau, ai aur ef.

1Ac 1.Bren.9.10.wedi yr vgain mhlynedd y rhai’r adailadodd Salomon dŷ’r Arglwydd, ai dŷ ei hun.

2Yna Salomon a adailadodd y dinasoedd 1.Bren.9.12.13.y rhai a roddase Hiram i Salomon: ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno.

3A Salomon a aeth i Hemath Sobah: ac ai gorchfygodd hi.

4Ac efe a adailadodd Tadmor yn yr anialwch: 1.Bren.9.18.a holl ddinasoedd y tryssorau y rhai a adailadodd efe yn Hemath.

5Efe hefyd a adailadodd Beth-horon vchaf, a Beth-horon isaf: dinasoedd cedyrn o furiau, pyrth, a barrau.

6Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y tryssorau y rhai oeddynt gan Salomon, a holl ddinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion: a’r hyn oedd ewyllys gan Salomon a fynnodd efe ei adailadu yn Ierusalem, ac 1.Bren.7.2.yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef.

7Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Iebusiaid y rhai nid oeddynt o Israel:

8Oi meibion hwynt y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlâd, y rhai ni ddifethase meibion Israel: Salomon ai gwnaeth hwynt yn drethawl hyd y dydd hwn.

9Ond o feibion Israel ni roddodd Salomon yn weision yn ei waith ef: canys hwynt ryfel-wŷr, a thywysogion ei gapteniaid ef, a thywysogion ei gerbydau, ai wŷr meirch ef.

10Ac dymma dywysogion y swyddogion y rhai gan y brenin Salomon, dau cant, a dêc a deugain yn arglwyddiaethu ar y bobl.

11Yna Salomon a ddug ferch Pharao i fynu o ddinas Dafydd i’r tŷ’r hwn a adailadase efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, ni thrig fyng-wraig i yn nhŷ Ddafydd brenin Israel, o herwydd sanctaidd yw, o blegit i Arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo ef.

12Yna Salomon a offrymmodd boeth offrymmau i’r Arglwydd ar 2.Cron.4.1.allor yr Arglwydd, yr hon a adailadase efe o flaen y porth,

13I Exod.29 39.boeth-offrymmu o ddydd i ddydd yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabbothau, ac ar y newydd loerau, ac ar y gŵyliau arbennic Lefit.23.dair gwaith yn y flwyddyn: ar ŵyl y bara croiw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.

14Ac efe a osododd’ (yn ôl trefn Dafydd ei dâd ef) ddosparthiadau’r offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid 1.Cron.24.1.yn eu gorchwyliaeth i foliannu, ac i weini ger bron yr offeiriaid bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosparthiadau wrth bob porth: canys felly gorchymyn Dafydd gŵr Duw.

15Ac ni throasant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid, a’r Lefiaid am bob peth, ac am y tryssorau.

16A Salomon a baratôdd yr holl waith er y dydd y seiliwyd tŷ’r Arglwydd nes ei orphen: y diweddwyd tŷ’r Arglwydd.

17Yna’r aeth Salomon i Esion-geber, ac i Eloth ar fin y môr yng-wlâd Edom.

18A Hiram a anfonodd gyd ai weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr, a hwy a aethant gyd a gweision Salomon i Ophir, ac a gymmerasant oddi yno bedwar cant a dêc a deugain talent o aur: ac ai dugasant ac y brenin Salomon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help