Esay 50 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. L.Yr Iddewon yn gwrthod Crist yn ddiachos, ei nerth, ei ddioddefaint, ai oruwchafiaeth yntef.

1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, pa le y mae llythr yscar eich mam,’r hwn y gollyngais hi ymmaith? neu pwy o’m dyledŵyr y gwerthais chwi iddo? wele i’ch anwireddau y gwerthwyd chwi, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymmaith eich mam.

2 Ioan 1.11. Pa ham y deuthum, ac na derbynnodd] neb? y gelwais, ac nad attebodd ai fy llaw gan gwttogi a gwttogodd fel na alle ymwared? onid ynof nerth i achub? wele a’m cerydd y sychais y môr, gosodais yr afonydd yn ddiffaethwch, eu pyscod a ddrewant o eisieu dwfr, ac a fyddant feirw o syched.

3Gwiscaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sach-liain yn dô iddynt.

4Yr Arglwydd a roddes i’m dafod y dyscedic, i fedru mewn pryd lefaru gair i’r deffygiol, deffru fi bob boreu, deffry i’m glust i glywed megis rhai dyscedic.

5Yr Arglwydd Dduw a agorodd fyng-hlust, a minne ni wrthwynebais, ni chiliais yn ôl.

6Fyng-horph Matt.26.67.a roddais i’r cur-wŷr, a’m cernau i’r cernod-wŷr, ni chuddiais fy wyneb oddi wrth wradwydd, a phoeredd.

7O herwydd yr Arglwydd Dduw a’m cymmorth, am hynny ni’m cywilyddiwyd, am hynny gosodais fy wyneb fel callestr am y gwyddwn na’m cywilyddid.

8Agos’r hwn a’m cyfiawnhâ, pwy a ymrysson â mi? safant yng-hyd, pwy a ymgyfreithia â mi nessaed attaf.

9Wele’r Arglwydd Dduw a’m cynnorthwy, a phwy’r hwn am anghyfiawnha? wele hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn, gwyfyn ai hyssa hwynt.

10Pwy yn eich mysc sydd yn ofni’r Arglwydd? gwrandawer lais ei wâs ef, yr hwn rodiodd tywyllwch, ac heb lewyrch iddo, gobeithied yn enw’r Arglwydd, ac ymddyrieded yn ei Dduw.

11Wele chwi oll yn cynneu tân yn ymwregyssu â gwreichion: rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gynneuasoch, o’m llaw i y mae hyn i chwi, mewn gofid y gorweddwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help