1Paul Apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus brawd at y Sainct a ffyddlon frodyr yng-Hrist Iesu y rhai yn Colossa,
2Grâs gyd â chwi a thangneddyf gan Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
3 Yr ydym yn diolch i Dduw, sef Tad ein Arglwydd Iesu Grist yn oestadol trosoch gan weddio,
4Er pan glywsom eich ffydd yng-Hrist Iesu, a’ch cariad i’r hôll sainct,
5Er y gobaith yr hon sydd wedi ei rhoddi i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch yn y blaen gan air gwirionedd yr Efengyl,
6Yr hon wedi dyfod attoch chwi, megis i’r holl fyd, ac yn ffrwythlon fel yn eich plith chwithe hefyd, o’r dydd y clywsoch, ac y gwybuoch râs Duw mewn gwirionedd.
7Fel y dyscasoch gan Epaphras ein annwyl gydwas, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffyddlon wenidog Crist.
8Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Yspryd.
9Am hynny ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio a gweddio trosoch, a deisyf eich cyflawni â gŵybyddiaeth ei ewyllys ef ym mhôb doethineb, a deall ysprydol.
10Fel y rhodioch yn deilwng gan yr Arglwydd, gan rygluddu bodd ym mhôb dim, gan Ephes.4.1.|EPH 4:1. phil,1.27.ddwyn ffrwyth ym mhôb gweithred dda, a thyfu yng-wybodaeth Dduw.
11Wedi ymnerthu â hôll nerth trwy ei ogoneddus gadernid ef i bôb dioddefgarwch, ac ymaros gyd ag hyfrydwch.
12Gan ddiolch i’r Tad yr hwn a’n gwnaeth yn gymmwys i rhan o etifeddiaeth y sainct yn y goleuni.
13Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth feddiant y tywyllwch, ac a’n ysmudodd ni i Math.3.17.|MAT 3:17. & 17.5.|MAT 17:5. 2.pet.1.17.deyrnas ei annwyl Fâb,
14Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, maddeuant pechodau.
15Yr hwn yw gwir Heb.1.3.ddelw yr anweledig Dduw, cyntafanedic pôb creadur.
16Canys Ioan.1.3.trwyddo ef y creawyd pôb dim a’r yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, yn weledig ac yn anweledig: pa vn bynnag ai Thronau, ai Arglwyddiaethau, ai Tywysogaethau, ai Meddiannau, pôb dim a greawyd trwyddo ef, ac erddo ef.
17Ac y mae efe cyn pop dim, ac ynddo ef y mae pôb dim yn cyd-sefyll.
18Ac efe yw pen corph yr eglwys: efe yr hwn yw’r dechreuad a’r 1.Cor.15.20.|1CO 15:20. gwele.1.5.cyntafanedic o’r meirw, fel ym mhôb dim y cae efe flaenori.
19Canys Ioan.1.14.|JHN 1:14. pen.2.9.rhyngodd bodd, trigo o bob cyflawnedd ynddo ef,
20A thrwyddo ef gymmodi pôb dim ag ef ei hun, pa vn bynnag, ai pethau yn y ddaiar, ai pethau yn y nefoedd, gan wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef.
21A chwithau y rhai oeddech gynt ddieithraid a gelynnion, gan fôd eich meddyliau ar weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymmododd efe,
22Yng-horph ei gnawd trwy farwolaeth fel eich gosodid chwi yn Luc.1.75.|LUK 1:75. 1.cor.1.2.|1CO 1:2. ephes.1.4.|EPH 1:4. tit.2.12.sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddigerydd ger ei fron ef.
23 Ion. 15.6. Os parhewch wedi eich seilio a’ch siccrhau yn y ffydd, heb siglo oddi wrth obaith yr Efengyl yr hon a glywsoch, a bregethwyd ym mysc pob creadur a’r sydd tan y nef, i’r hon yr euthym i Paul yn weinidog.
24Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefaint trosoch, ac yn cyflawni yr hyn oedd yn ôl o gystudd Crist yn fyng-hnawd i, er mwyn ei gorph ef, yr hwn yw’r eglwys,
25I’r hon yr euthym i yn weinidog, yn ôl gorchwiliaeth Dduw, yr hon a roddwyd i mi o’ch plegit chwi i gyflawni gair Duw.
26[Sef] y Ruf.16.25.|ROM 16:25. ephes.3 9.|EPH 3:9. 2.tim.1.10.|2TI 1:10. 1.pet.1.20.dirgelwch yr hwn oedd guddiedig er yn oes oesoedd ac yr awr hon a eglurwyd iw sainct ef.
27I ba rai y mynnase Duw yspysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hyn ym mhlith y cenhedloedd, yr hwn yw Christ yr hwn sydd ynoch chwi, 1.Tim.1.1.gobaith y gogoniant.
28Yr hwn yr ydym yn bregethu, gan rybuddio pôb dyn, a dyscu pôb dyn ym mhôb doethineb, fel y gosodom bôb dyn yn berffaith yng-Hrist Iesu.
29Am yr hwn beth yr ydwyf fi hefyd yn ymboeni, gan ymegnio yn ôl ei weithrediad ef yr hon sydd yn gweithio ynofi yn nerthol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.