Baruch 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Llawenydd Ierusalem am lawenydd ei phobl o gaethiwed.

1O Ierusalem diosc wisc dy alar a’th dristwch, a gwisc harddwch y gogoniant yr hwn sydd oddi wrth Dduw yn dragywydd.

2Duw a wisc bais cyfiawnder am danat tia esyd ar dy ben di goron gogoniant tragywyddol.

3O blegit Duw a ddengis dy ddisclaerdeb di i bob tann y nefoedd.

4Canys Duw a eilw dy enw di byth, heddwch cyfiawnder, a gogoniant duwioldeb.

5Cyfot Ierusalem a saf yn vchel ac edrych tu a’r dwyrain a gwel dy blant wedi eu casclu o fachludiad haul hyd ei godiad trwy air yr hwn sydd sanctaid yn llawen ganddynt goffau Duw.

6Ar eu traed yr aethant hwy oddi wrthit ti ai gelynion ai dugasant hwynt ymmaith: eithr Duw ai dwg hwynt attat ti wedi eu derchafu mewn gogoniant fel meibion brenin.

7O blegit Duw a ordeiniodd ostwng pob mynydd vchel a’r brynniau tragywyddol, a llēwi y pantoedd yn ogyfiwch a’r ddaiar fel y gallo Israel rodio yn ddiogel er gogoniant i Dduw.

8Y coedydd a phob pren aroglbêr a fuant lawen tros Israel wrth orchymyn Duw.

9O herwydd Israel a ddygir yn llawen yng-oleuad ei ogoniant ef yng-hyd â thrugaredd, a’r cyfiawnder yr hwn sydd oddi wrtho ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help