1A’r Holl bobl a ymgasclasant o vn fryd i’r heol yr hon o flaen porth y dwfr: a dywedasant wrth Esdras.7.5.Esdras yr scrifennudd am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchymynnase’r Arglwydd i Israel.
2Yna Esdras yr offeiriad a ddûg y gyfraith o flaen y gynnulleidfa yn wŷr, ac yn wragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mîs.
3Ac efe a ddarlenodd ynddo ar wyneb yr heol (yr hon o flaen porth y dwfr] o’r borau hyd hanner dydd ger bron y gwŷr, a’r gwragedd, a’r rhai oeddynt yn ddeall: a chlustiau’r holl bobl ar lyfr y gyfraith.
4Ac Esdras yr scrifennudd a safodd ar bulpyd o goed yr hwn a wnelsid i’r peth a chyd ag ef y safodd Mattithia, a Semaa, ac Anania, ac Uria, Helcia hefyd, a Maaseiah ar ei law ddehau ef: a Phedaiah, a Misael, a Malciah, a Haium, Hasbadana hefyd, Zecariah, Mesulam ar ei law asswy ef.
5Yna Esdras a agorodd y llyfr yng-ŵydd yr holl bobl, canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl: a phan yr agorodd, yr holl bobl a safasant.
6Ac Esdras a fendithiodd yr Arglwydd y Duw mawr: a’r holl bobl a attebasant Amen, Amen, gan dderchafu eu dwylo, a hwynt a ymgrymmasant, ac a addolasant yr Arglwydd hwynebau’r ddaiar.
7Iesua hefyd, a Bani, a Serebiah, Iamin, Accub, Sabbethai, Hodiiah Maaseiah, Celita, Azariah, Iozadad, Hanan, Pelaiah, a’r Lefiaid oeddynt yn dyscu y gyfraith i’r bobl, a’r bobl yn eu sefyll.
8A hwynt a ddarllenasant yn eglur yn llyfr cyfraith Dduw: gan osod y synnwyr fel y deallent wrth ddarllen.
9Yna Nehemias efe Hathirsatha, ac Esdras yr offeiriad scrifennudd, a’r Lefiaid y rhai oeddynt yn dyscu’r bobl a ddywedasant wrth yr holl bobl, heddyw sydd sanctaidd i’r Arglwydd eich Duw, na alêrwch, ac na ŵylwch: canys yr holl bobl oeddynt yn ŵylo pan glywsant eiriau y gyfraith.
10Ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch, bŵytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid ganddo yn barod, canys heddyw sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch, canys llawenydd yr Arglwydd yw ein nerth ni.
11A’r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl gan ddywedyd, tewch, canys heddyw sydd sanctaidd: am hynny na thristêwch.
12Yna’r holl bobl a aethant i fwytta, ac i yfed, ac i anfon ymmaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr: canys ddeallasent y geiriau y rhai a ddyscasent hwy iddynt.
13A’r ail dydd tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a’r Lefiaid a ymgynnullasant at Esdras yr scrifennudd, iw dyscu yng-eriau y gyfraith.
14A hwynt a gawsant yn scrifennedic yn y gyfraith, (yr hon a orchymynnase’r Arglwydd drwy law Moses) y dyle meibion Israel Lefit.23.42.drigo mewn bythod ar yr wyl yn y seithfed mîs.
15Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Ierusalem gan ddywedyd, ewch i’r mynydd, a dygwch ganghennau oliwydd, a changau pîn-wŷdd, a changau y myrt-wŷdd, a changau y palm-wŷdd a changhennau o’r prennau caead-frig, i wneuthur bythod fel y mae yn scrifennedic.
16Felly y bobl a aethant allan, ac a ddugasant, ac a wnaethant iddynt fythod bob vn ar ei nenn, ac yn eu cynteddoedd, ac yng-hynteddoedd tŷ Dduw: ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Ephraim.
17A’r holl gynnulleidfa y rhai a ddychwelasent o’r caethiwed a wnaethant fythod, a thrigasant yn y bythod, canys er dyddiau Iosuah fab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethe meibion Israel felly: ac yr oedd llawenydd mawr lawn.
18Ac a ddarllenodd yn llyfr cyfraith Dduw beunydd o’r dydd cyntaf hyd y dydd diweddaf: a hwynt a gynhaliasant yr ŵyl saith niwrnod, ac ar yr ŵythfed dydd gymmanfa yn ôl y ddefod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.