Luc 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Edifeirwch Zachæus, 12 y rhagor rhwng y dec gwâs y rhai a gawsant y dec darn arian, 28 Crist yn marchogaeth i Ierusalem, 45 yn bwrw allan y pryn-wyr a’r gwerth-wyr, 47 a’r Iddewon yn ceisio ei ddifetha ef.

1Ac efe a ddaeth i mewn, ac a aeth trwy Iericho.

2Ac wele, ryw ŵr a’i enw Zacheus, a hwn oedd bennaf o’r Publicanod, ac yr oedd efe yn gyfoethog.

3Ac efe a geisiodd weled pwy oedd yr Iesu, ac ni alle gan y dyrfa, am ei fôd yn fychan o gorpholaeth.

4Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sicomorwydden, fel y galle ei weled ef: canys yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.

5A phan ddaeth yr Iesu i’r lle efe a edrychodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Zacheus descyn ar frys, canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.

6Yna y descynnodd efe ar ffrwst, ac a’i derbynniodd ef yn llawen.

7A phawb pan welsant hyn a wrwgnachasant gan ddywedyd, ei fod efe wedi myned i mewn i letteua at ddŷn pechadurus.

8A Zacheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, wele Arglwydd, yr ydwyf yn rhoddi hanner fy na i’r tlodion: ac os dygum ddim oddi ar neb trwy dwyll, mi a’i talaf ar ei bedwerydd.

9A’r Iesu a ddywedodd wrtho, heddyw y daeth iechydwriaeth i’r tŷ hwn, am ei fôd yntef hefyd yn fâb i Abraham.

10 Pen.21.5.|LUK 21:5. Math.24.1. Mar.13.1. Ac wedi iddo ef ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd trosti,

42Gan ddywedyd, canys pe gwypit ti o’r lleiaf yn dy ddydd hwn y pethau a berthynant i’th heddwch: eithr y maent yn awr yn guddiedic rhagot.

43Canys fe a ddaw y dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bôb parth.

44Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r ddaiar a’th blant y rhai ydynt o’th fewn: ac ni adawant ynot faen ar faen, am nad adwaenit amser dy ymweliad.

45Ac Math.21.13. Mar.11.17efe a aeth i mewn i’r Deml, ac a ddechreuodd daflu allā y rhai oeddynt yn gwerthu, ac yn prynu ynddi,

46Gan ddywedyd wrthynt, y mae yn scrifennedig, Esai.56.7.|ISA 56:7. Iere.7.11. tŷ gweddi yw fy nhŷ i: a chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.

47Ac yr oedd efe beunydd yn dyscu yn y Deml, a’r arch-offeiriaid, a’r scrifennyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisiasant ei ddifetha ef.

48Ond ni fedrent wneuthur dim iddo ef, canys yr holl bobl a lŷnasant pan glywsant ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help