2.Brenhinoedd 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Ahaz yn cyssegru ei fab mewn ran. 7 Yn ceisio ac yn cael cynhorthwy gan frenin Assyria yn erbyn brenhinoedd Syria, ac Israel. 20 Hezecia yn teyrnasu yn lle Ahaz.

1Yn yr ail flwyddyn ar bymthec i Peca fab Remaliahu y dechreuodd Abaz mab Iotham brenin Iuda deyrnasu.

2Mab vgain mlwydd Ahaz pan ddechreuodd 2.Cron.28.1.159 efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac ni wnaeth efe yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd ei Dduw ef, fel Dafydd ei dad.

3Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinioedd Israel: Lefit.28.21.(sic.)|LEV 18:21. Deut.18.10.|DEU 18:10. 2.cron.28.3.ac a yrrodd ei fab drwy yr tân yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd y rhai a fwriase yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

4Ac efe a aberthodd, ac a arogl-darthodd mewn vchelfeudd, ac ar y brynnau: a thann bôb pren gwyrdd-las.

5Yna y daeth Esa.7.4.Nezin brenin Syria, a Pheca mab Remaliahu brenin Israel i fynu i Ierusalem y ryfel: a hywynt a warchâsant ar Ahaz, ond ni allasant hwy orchfygu

6Yn yr amser hwnnw Rezin brenin Syria a ddug trachefn Elath at Syria, ac a ddiwreiddiodd yr Iddewon a Elath: a’r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a bresswyliasant yna hyd y dydd hwn.

7Yna Ahaz a anfonodd gennadau at 2.Cron.28.20.Ciglath Peleser brenin Assyria gan ddywedyd: dy wâs di, a’th fab di ydwyfi: tyret i fynu, a gwaret fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai ydynt yn cyfodi yn fy erbyn i.

8Ac Ahaz a gymmerth yr arian, a’r aur y rhai a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhryssorau tŷ y brenin: ac a anfonodd anrheg i frenin Assyria.

9A brenin Assyria a wrandawodd arno ef, a brenin Assyria a ddaeth i fynu i Ddamascus, ac ai hennillodd hi, ac a gaeth-gludodd ei i Cir: ac a laddodd Rezin.

10A’r brennin Ahaz a aeth i Ddamascus i gyfarfod Tiglath Peleser brenin Assyria, pan welodd efe yr allor’r hon yn Damascus: yna brenin Ahaz a anfonodd ar Uria yr offeiriad lûn yr allor, ai hagwedd yn ôl ei holl wneuthuriad.

11Ac Uria yr offeiriad o adailadodd yr allor: yn ôl yr hyn oll a anfonase y brenin Ahaz o Ddamascus, felly y gwnaeth Uria yr offeiriad erbyn dyfod y brenyn Ahaz o Ddamascus.

12Felly y brenin a ddaeth o Ddamascus a’r brenin a ganfu yr allor: y brenin hefyd a nessaodd at yr allor, ac a boeth offrymmodd arni hi.

13Ac efe a loscodd ei boeth-offrwm, ai fwyd offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod offrwm: taenellodd hefyd waed yr offrymmau hedd yr hwn ganddo ar yr allor.

14A’r allor brês yr hon ger bron yr Arglwydd a dynnodd efe ymmaith o dalcen y tŷ, oddi rhwng yr allor, a thŷ yr Arglwydd: ac ai rhoddes hi wrth ystlys yr allor o du yr gogledd.

15A’r brenin Ahaz a orchymynnnodd i Uria yr offeiriad gan ddywedyd, llosc ar yr allor fawr y poeth offrwm boreuol, a’r bwyd offrwm prynhawnol, poeth offrwm y brenin hefyd, ai fwyd offrwm ef, a phoeth offrwm holl bobl y wlâd ai bwyd offrwm hwynt, eu diodydd offrwm hwynt hefyd, a holl waed y poeth offrwm, a holl waed yr aberth a daenelli di arni hi: a bydded yr allor brês i mi ymmorol

16Ac Uria yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnase y brenin Ahaz.

17A’r brenin Ahaz a dorrodd ddaliadau y trestêlau, ac a dynnodd ymmaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddescynnodd y gerwyn oddi ar yr Achen prês, y rhai tani hi: ac ai rhoddodd hi ar balmant cerrig.

18A gorchudd y Sabboth yr hwn a adailadasent hwy yn tŷ, a dyfodfa y brenin oddi allan a drôdd efe dŷ yr Arglwydd: rhac ofn brenin Assyria.

19A’r rhan arall a hanes Ahaz, yr hyn a wnaeth efe: onid hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinnedd Iuda?

20Ac Ahaz a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd gyd ai henafiaid yn ninas Dafydd: a Hezecia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help