1Ac yn ôl i ni osod allan, wedi ymadel â hwynt, ni a ddaethom ag iniawn-gyrch i Coos a thranoeth i Rodos, ac oddi yno i Pâtara.
2A phan gawsom long yn hwylio i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymmaith.
3Ac wedi ymddangos o Cyprus i nyni, ni a’i gadawsom, ar y llaw asswy, ac a hwyliasom tu â Syria, ac a diriasom yn Tyrus, canys yno yr oeddid yn dadlwytho y llong.
4Ac ni a arhosasom yno saith niwrnod, gan gael discyblion, y rhai a ddangosodd i Paul trwy yr Yspryd, nad ele i Ierusalem.
5Ac wedi gorphen y dyddiau hynny, ni a aethom ymmaith, a hwyntwy oll, a’u gwragedd a’u plant a’n hebryngasant, onid, aethom allan o’r ddinas, ac ni a ostyngasom ar ein gliniau ar y traeth, ac a weddiasom.
6Ac wedi cyfarch ei gilydd, ni a ddringsom i’r llong: a hwyntau a ddychwelasant adref.
7Ac wedi i ni hwylio, ni a ddaethom i wared o Tyrus i Ptolemais, ac a gyfarchasom i’r brodyr, ac a drigasom vn diwrnod gyd â hwynt.
8A thrannoeth Paul a ninnau y rhai oeddem gyd ag ef, a ddaethom i Cæsarea, ac a aethom i mewn i dŷ Pen.6.5. Philip yr efengylwr, yr hwn oedd vn o’r saith, ac a arhosasom gyd ag ef.
9Ac iddo ef yr oedd pedair merched o forwynion yn prophwydo.
10Ac fel yr oeddem ni yn aros yno lawer o ddyddiau, fe ddaeth o Iudaea i wared brophwyd a’i enw Agabus:
11A phan ddaeth efe attom ni, a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ddwylaw draed, efe a ddywedodd hyn a ddywed yr Yspryd glân, fel hyn y rhwyma yr Iddewon yn Ierusalem y gŵr yr hwn a biau y gwregys hwn, ac a’i dodant i ddwylo y cenhedloedd.
12Ac wedi clywed o honom hyn, nyni a’r rhai oeddynt yn yr vn fan a ddeisyfiasom nad ele efe i fynu i Ierusalem.
13Yna yr attebodd Paul, pa beth a wnewch chwi yn ŵylo, ac yn dolurio fyng-halon? canys parot wyfi, nid i’m rhwymo yn unic, ond i farw hefyd yn Ierusalem er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.
14A phan nad oedd yn cydseinio â ni, ni a bediasom, gan ddywedyd, bydded ewyllys yr Arglwydd.
15Hefyd yn ôl y dyddiau hynny, nyni a gymmerasom ein beichiau, ac a ddaethom i fynu i Ierusalem.
16A rhai o’r discyblion o Cæsarea a ddaethant gyd â ni, ac a ddugasant gyd â hwynt vn Mnason o Gyprus hên ddiscybl, gyd â’r hwn y lleteuem.
17A phan ddaethom i Ierusalem, y brodyr a’n derbyniasant yn llawen.
18A’r dydd nesaf yr aeth Paul i mewn at Iaco gyd â ni, a’r holl henuriaid oeddynt wedi ymgasclu.
19Ac wedi iddo gofleidio y rhai hyn, efe a fynegodd iddynt o fesur vn, ac vn bôb peth a’r a wnaeth Duw trwy ei weinidogaeth ef ym mhlith cenhedloedd.
20A phan glywsant, hwy a roesant ogoniant i’r Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho: Ti a weli frawd, pa sawl myrddiwn o’r Iddewon a gredâsant, ac y maent oll yn dwyn zel i’r ddeddf.
21Eithr hwy a glwysant am danat ti, dy fod yn dyscu yr Iddewon oll y rhai sydd ym mysc y cenhedloedd i ymwrthod â Moses: ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau.
22Pa beth wrth hynny? rhaid yw i’r dyrfa ddyfod yng-hyd: canys hwy o glywant dy ddyfod ymma.
23Can hynny gwna y peth a ddywedom wrthit, y mae ymma bedwar-gwŷr a wnaethant adduned:
24Cymmer hwynt a glanhâ dy hun gyd â hwynt, gwna draul arnynt, fel yr Pen.28.18.|ACT 28:18. Num.6.18. eilliant eu pennau, ac y gŵypo pawb am y pethau a glywsant am danat ti, nad ydynt ddim, ond dyfot ti yn rhodio gan gadw y ddeddf.
25Ac am y cenhedloedd sy yn credu, ni a scrifennasom, ac a gwbl gytunâsom, na byddo iddynt gadw y cyfryw beth: eithr ymochel o honynt rhag y peth a offrymmwyd i’r eulynnod, a rhag gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag putteindra.
26Yna Paul a gymmerth y gwŷr hynny, a thrannoeth yr ymlanhâodd gyd â hwynt, ac efe a aeth i mewn i’r Deml: gan yspysu gyflawni dyddiau y glanhâd, Num.6.18. hyd oni offrymmid offrwm dros bob vn o honynt.
27Ac wedi gorphen y saith niwrnod, rhyw Iddewon o Asia pan welsant ef yn y Deml, a gyffroesant yr holl bobl, ac a roesant eu dwylaw arno,
28Gan lefain, ha-wŷr o Israel, cymhorthwch: dymma y dyn yr hwn sydd yn dyscu ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle ymma: hefyd y mae efe wedi dwyn Groegiaid i mewn i’r Deml, ac wedi halogi y lle sanctaidd hwn.
29Canys hwy a welsent o’r blaen Trophimus o Ephesus gyd ag ef yn ddinas, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r Deml.
30A’r holl ddinas a gyffrôdd, a’r bobl a redodd yng-hyd, ac hwy a ymafelasant yn Paul, ac a’i tynnasant allan o’r Deml, ac ar frŷs y caewyd y drysau.
31Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, y daeth y gair at ben-capten y llu, fod holl Ierusalem wedi cyffroi.
32Ac yn y fan efe a gymmerodd filwŷr, a chanwriaid, ac a redodd i wared attynt: a hwythau pan welsant y pencapten a’r mil-wŷr a beidiasant â tharo Paul.
33Yna y daeth y pēcapten, ac a’i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ofynnodd, pwy oedd efe, a pha beth a wnaethe efe?
34A rhai o’r dyrfa a lefent hyn, eraill beth arall, ac am na’s galle gael siccrwydd gan y derfysc, efe a orchymynnodd fyned ag ef i’r castell.
35Ac wedi ei ddyfod ef i’r grisiau, fe orfu i’r milwyr ei ddwyn ef, rhag trais y dyrfa.
36Canys llu o bobl a ganlynodd, gan floeddio, ymmaith ag ef.
37A phan oeddyd ar ddwyn Paul i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen-capten: a gaf fi ymddiddan dim â thi? yntef a ddywedodd: a fedri di Roeg?
38Ond ty-di ydyw yr Aiphti-wr yr hwn (er ys dyddiau) a gyfodaist derfysc, ac a dywysaist bedair mil o wŷr llofruddioc i’r diffaethwch?
39Yna y dywedodd Paul: yn wîr, Iddew ŵyfi, dinesydd o Tharsus, nid dinas anenwoc o Cilicia: ac yr wyfi yn deisyf arnat ti, dod gennad i mi, i lefaru wrth y bobl.
40Ac wedi iddo ef roi cennad, fe safodd Paul ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl, ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebræ-aec, gan ddywedyd,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.