1Derchafaf dy di fy Nuw Brenin: a bendithiaf dy enw byth, ac yn dragywydd.
2Beunydd i’th fendithiaf, a’th enw a folaf byth, ac yn dragywydd.
3Mawr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ac ar ei fawredd nid ddiben.
4Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynegant dy gadernid.
5Ardderchawgrwydd gogoniant dy fawl a’th bethau rhyfedd a fefyriaf.
6Traethant hwy gadernid dy ofnadwy: mynegaf inne dy fawredd.
7Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant: a’th gyfiawnder a ddadcanant.
8Graslawn, a thrugarog Arglwydd: hwyrfrydic ddig, a mawr drugaredd.
9Daionus Arglwydd i bawb: ai drugaredd ar ei holl weithredoedd.
10Dy holl weithredoedd di a’th glodforant ô Arglwydd: a’th sainct a’th fendithiant.
11Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth: a thraethant dy gadernid,
12I beri i feibion dynnion adnabod ei gadernid ef: a gogoniant ardderchawgrwydd ei frenhiniaeth.
13Dy frenhiniaeth di frenhiniaeth dragywyddol: a’th lywodraeth yn oes oesoedd.
14Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant: ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
15Llygaid pawb a ddisgwiliant wrthit, ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd:
16Gan agorid dy law, a diwallu pob peth byw ewyllys da.
17Cyfiawn Arglwydd yn ei holl ffyrdd: a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
18Agos Arglwydd i’r rhai oll a alwant arno: i’r holl rai a alwant arno mewn gwirionedd.
19Efe a wnaiff ewyllys y rhai ai hofnant: gwrendu hefyd eu llefain, ac ai hachub hwynt.
20Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb ai carant ef, a’r holl rai annuwiol a ddifetha efe.
21Traethed fyng-enau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
