Mathew 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.Crist yn marchogaeth ar assyn i Ierusalem, 12 yn gyrru y pryn-wyr a’r gwerth-wyr o’r Deml, 19 y ffigys-pren yn gwywo, 25 bedydd Ioan, 28 pwy fydd yn gwneuthur ewyllys Duw, 35 y gwinllan-wyr anghyfiawn yn arwyddocau anniolchgarwch yr Iddewon.

1 A Mar.11.1|MRK 11:1. Luc.19.29Phan ddaethant yn gyfagos i Ierusalem a’u dyfod hwy i Bethphage i fynydd yr Oliwŷdd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddiscybl,

2Gan ddywedyd wrthynt, ewch i’r dref sydd ar eich cyfer chwi, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym, ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attafi.

3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch fod yn rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man, efe a’u gollwng hwynt.

4A hyn oll a wnaethpwyd i gyflawni yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,

5 Esai.62.11.|ISA 62:11. Zacha.9.9.|ZEC 9:9. Ioan.12.15. Dywedwch i ferch Sion, wele, dy Frenin yn dyfod attat yn fwyn, ac yn eistedd ar assyn, ac ebol llwdn assyn arferol â’r iau.

6Y discyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynnodd yr Iesu iddynt.

7A hwy a ddugasant yr assyn a’r ebol, ac a ddodâsant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef ar hynny.

8A thyrfa ddirfawr a danâsant eu dillad ar y ffordd: eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u tanâsant ar hyd y ffordd.

9A’r dyrfa bobl y rhai oeddynt yn myned o’r blaen, a’r rhai oeddynt yn dyfod ar ôl a lefâsant, gan ddywedyd: Hosanna i fâb Dafydd: bendigedic fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd, Hosanna yn y goruchelder.

10Ac wedi ei ddyfod ef i Ierusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, pwy yw hwn?

11A’r bobl a ddywedasant, hwn yw’r Iesu y prophwyd o Nazareth yn Galilæa.

12 Mar.11.15.|MRK 11:15. Luc.19.45. Ioan.2.13. A’r Iesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac ai taflodd hwynt oll allan bawb y rhai oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newid-wŷr arian, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu colomennod.

13Ac a ddywedodd wrthynt, y Esai.56.7.mae yn scrifennedic, tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ maufi, eithr Iere.7.11.|JER 7:11. Marc.11.17. Luc.19.46.chwi a’i gwnaethoch yn ogof ladron.

14Yna y daeth y deillion a’r cloffion atto yn y Deml, ac efe a’u hiachaodd hwynt.

15A phan welodd yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion y rhyfeddodau a wnaethe efe, a’r plant yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fâb Dafydd, hwy a lidiâsant,

16Ac hwy a ddywedâsant wrtho, a wyt ti yn clywed yr hyn a ddywed y rhai hyn? a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ydwyf, oni ddarllennâsoch chwi er ioed, Psal.8.2o enau plant bychain, a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?

17Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas, i Bethania, ac a leteuodd yno.

18A’r boreu fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno newyn.

19A phan welodd efe ryw ffigus-bren ar y ffordd, efe a ddaeth atto, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn vnic, ac efe Mar.11.13.a ddywedodd wrtho, na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach, ac yn ebrwydd y crinodd y ffigus-bren

20A phan welodd y discyblion, hwy a ryfeddâsant gan ddywedyd, pa fodd y crînodd y ffigus-bren yn y fann?

21A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Math.17.20.yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd, ac heb ammau dim, ni wnewch yn vnic hyn i’r ffigus-bren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, ymgyfot, a bwrw dy hun i’r môr, hynny fydd.

22A’r hyn Math.7.7. Ioan.14.13. 1.Ioan.5.14.oll a ddymunoch mewn gweddi gan gredu, a dderbyniwch chwi.

23Ac wedi ei ddyfod efe i’r Deml, yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant atto fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd hyn, Marc.11.27. Luc.20.2.wrth ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hyn?

24A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, minne a ofynnaf i chwithau vn gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnef a fynegaf i chwithau, wrth ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? yna y rhesymmâsant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd: os dywedwn mai o’r nef: efe a ddywed wrthym, pa ham gan hynny na’s credâsoch ef.

26Ac Math.14.5. Marc.6.20.os dywedwn mai o ddynion, y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb oll yn cymmeryd Ioan fel prophwyd.

27Yna yr attebâsant i’r Iesu gan ddywedyd, ni ŵyddom ni: ac yntef a ddywedodd wrthynt, nid wyf finne yn dywedyd i chwi wrth pa awdurdod yr wyf yn gwneuthur hyn.

28Ond beth a dybygwch chwi? yr oedd i ŵr ddau fab, ac efe a ddaeth at yr hynaf, ac a ddywedodd, dôs fâb a gweithia heddyw yn fy ngwinllan.

29Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, nid âf fi: ond wedi hynny yn ôl edifarhau arno, efe a aeth.

30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr vn modd, ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, mi a âf arglwydd: ac nid aeth efe.

31Pa vn o’r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? dywedasant wrtho, y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, yn wir meddaf i chwi, yr aiff y Publicanod a’r puteinied o’ch blaen chwi i deyrnas Dduw.

32Canys Math.3.4.daeth Ioan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef: ond y Publicanod a’r puteiniaid a’i credâsant ef: chwithau yn gweled nid edifarhausoch wedi hynny fel y credech ef.

33Clywch ddammeg arall: Esa.5.1. Ier 2.21.|JER 2:21. Mar.12.1.|MRK 12:1. Luc.20.9.yr oedd rhyw ddŷn o berchen tŷ yr hwn a blannodd win-llan, ac ai caeodd hi o amgylch, ac a wnaeth ei win-wryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd i lafur-wŷr, ac a aeth i bell.

34A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafur-wŷr, i ddorbyn i dderbyn ei ffrwythau hi:

35A’r llafur-wŷr a ddaliasant ei weision ef, ac a darawsant vn, ac arall a laddâsant, ac arall a labyddiâsant hwy.

36Trachefn efe a anfonodd weision eraill mwy na’r rhai cyntaf: ac hwy a wnaethant iddynt yr vn modd.

37Ac yn ddiweddaf oll efe a anfonodd attynt hwy ei fâb ei hun, gan ddywedyd, hwy a barchant fy mâb i.

38A phan welodd y llafur-wŷr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Math.26.3. Ioan.11.53.hwn yw yr etifedd: deuwch lladdwn ef, a chymerwn ei etifeddiaeth ef.

39Ac wedi iddynt ei ddal ef, hwy a’i cymerâsant ef, ac a’i taflâsant allan o’r winllan, ac a’i lladdâsant ef.

40Am hynny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafur-wŷr hynny?

41Hwy a ddywedasant wrtho, efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y win-llan i lafur-wŷr eraill, y rhai a roddant iddo ffrwyth yn eu hamserau.

42A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr scrythyrau, Psal.118.22. Act.4.11. Rhuf.9.33. 2.Pet.2.7.y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwnnw a wnaethpwyd yn benn congl? yr Arglwydd a’i gwnaeth, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.

43Am hynny meddaf i chwi, y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwyth.

44A phwy Esa.8.14.bynnac a syrthio ar y maen hwn efe a ddryllir: ac ar bwy bynnac y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.

45A phan glybu’r arch-offeiriaid a’r Pharisæaid ei ddamhegion, hwy a ŵybuant mai am danynt hwy y dywedase efe.

46Ac hwy yn ceisio ei ddala, a ofnasant y bobl, am eu bod yn ei gymmeryd ef fel prophwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help