1Nid hyderus ai godi ef: a phwy efe a saif ger fy mron?
2Pwy a roddodd i mi yn gyntaf? ac myfi a dalaf: dann yr holl nefoedd eiddofi hynny.
3Ni thawaf am ei aelodau ef: ac am gryfder a gweddeidd-dra ei osodiad ef.
4Pwy a ddatcuddiodd wyneb ei wisc ef? pwy a ddaw ai ffrwyn ddau ddyblyg ef?
5Pwy a agorodd ddôrau ei wyneb ef? dychryn amgylchoedd ei ddannedd ef.
6Rhagorol gryfder emmau a gaewyd â sêl gyfyng.
7Y mae’r naill morr agos at y llall, fel na ddelo gwynt rhyngddynt hwy.
8Pob vn a lŷn wrth ei gilydd: hwynt a ymglafhysant fel na wahanant hwy.
9Ei disian ef a gynneu yn ffagl: ai lygaid ef fel amrantau y borau.
10Ffaglau a ânt allan, gwreichion tânllyd a ddiangant oi enau ef.
11Mwg a ddaw allan oi ffroenau ef: fel bair, neu grochan berwedic.
12Ei anadl ef a wna i’r glo losci: a fflam a ddaw allan oi enau ef.
13Yn ei wddf ef y trig cryfder: a thristwch a drŷ yn llawenydd oi flaen ef,
14Llywethau ei gnawd a lynant yng-hyd: caledodd ynddo ei hun fel na syflo.
15Caled ydyw ei galon ef fel carreg: a chaled fel y maen issaf i felin.
16Rhai cryfion a ofnant ei ardderchawgrwydd ef: a wallgofant rhag ei derfysc ef.
17Ni syfl efe y cleddyf a gyffyrddo ag ef, y waiw-ffon, y biccell, na’r llurig.
18Efe a gyfrif haiarn fel man-ûs: dûr fel prenn pwdr.
19Ni phâr saeth iddo ef ffoi: cerrig tafl a droed iddo ef yn sofl.
20Bŵa croes a gyfrifir fel soflun, ac efe a chwardd wrth escwyd glaif.
21Tano ef megis darniau llymmion o lestr pridd: efe a dana bethau llymmion ar hŷd y clai.
22Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel morter apothecari.
23Efe a wna lwybr golan ar ei ôl: y tebygid y dyfnder yn frig-wynn.
24Nid ar y ddaiar gyffelyb iddo ef: yr hwn a wnaethpwyd heb ddychryn.
25Efe a genfydd bob peth vchel: brenin efe ar holl feibion balchder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
