1Gwrando fyng-weddi ô Dduw, ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.
2Gwrando arnaf ac erglyw fi, cŵynfan yr ydwyf yn fyng-weddi, a thuchan.
3Gan lais y gelyn, a chan orthrymder yr annuwiol, o herwydd iddynt ddywedyd celwydd arnaf, a’m gwrthwynebu yn llidioc.
4Fyng-halon a ofidia o’m mewn: ac ofn angeu a syrthiodd arnaf fi.
5Ofn, ac arswyd a ddaeth arnaf: a dychryn a’m gorchuddiodd.
6A dywedais, ô na bai i mi adenydd fel colommen:’r ehedwn, ac y gorphywyswn.
7Wele cyrwydrwn ym mhell, arhoswn yn yr anialwch.Selah.
8Bryssiwn i ddiangc rhag y gwynt ystormus, a’r demhestl.
9Dinistria ô Arglwydd, gwahan eu tafodau, canys gwelais drawsder, a chynnen yn y ddinas.
10Dydd a nôs yr ymgylchant hi ar ei muriau, ac anwiredd a blinder oi mewn.
11Anwireddau oi mewn, ac ni chilia twyll a dichell oi heolydd hi.
12Nid gelyn yn ddiau a’m difenwodd, canys dioddefaswn nid fyng-has-ddyn a ymfawrygodd i’m herbyn, canys mi a ymguddiaswn rhagddo ef.
13Eithr tydi fyng-hydymmaith, fy fforddwr, a’m cydnabod.
14Y rhai oedd felys gennym gyd gyfrinachu: a rodiasom yn gymydeithgar yn nhŷ Dduw.
15Rhuthred marwolaeth arnynt: y descynnant i vffern yn fyw, canys drygioni yn eu cartref oi mewn.
16Myfi a waeddaf ar Dduw, a’r Arglwydd a’m hachub i.
17Hwyr a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.
18Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel yr hwn i’m herbyn: canys llawer oedd gyd â mi.
19Duw a glyw, ac ai darostwng hwynt yr hwn sydd yn teyrnasu er ioed, Selah: am nad symmudiadau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.
20Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oeddynt heddychlon ag ef, a dorrodd ei gyfammod.
21Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn: a rhyfel yn ei galon, tynêrach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.
22Bwrw dy ofal ar yr Arglwydd, ac efe a’th faetha di, ni âd i’r cyfiawn syrthio byth.
23Tithe Dduw ai descynni hwynt i bydew llwgr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau, ond myfi a obeithiaf ynot ti.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
