1Ac mi a ystyriais hyn oll yn fyng-halon ar fedr dangos hyn hefyd: bod y cyfiawn a’r doethion, ai gweithredoedd yn llaw Duw, fel na ŵyr dynnion ai’r peth a garant, ai’r peth a gasânt o’r hyn oll sydd oi blaen.
2Yr vn peth i bawb yn gystal ei gilydd, yr vn peth a ddamwain i’r cyfiawn, ac i’r annuwiol, i’r da, i’r glân, ac i’r aflân, i’r neb a abertha, ac i’r neb ni abertha, i’r gŵr da megis i’r pechadur, i’r neb a dyngo ac i’r neb a ofno dyngu.
3Dymma’r peth gwaethaf o’r holl bethau tann haul bod yr vn diben i bawb, hefyd bod calon meibion dynnion yn llawn drygioni, ai calon yn pob ynfydrwydd tra fyddant fyw, ac yn ôl hynny eu bod yn myned at y meirw.
4Tra fyddo neb yng-hymdeithas y rhai byw oll, y mae iddo ef obaith: canys gwell yw cî byw na llew marw.
5O herwydd y rhai byw a ŵyddant y byddant feirw, ond nid oes dim gŵybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt obr mwyach, canys eu coffa hwynt a anghofir.
6Methodd y peth a gârant, a’r peth a gâsant, a’r peth a ddeisyfant, ac nid oes iddynt gyfran byth o ddim oll sydd tann yr haul.
7Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac ŷf dy win â chalon hyfryd, canys pa bryd bynnac, cymmeradwy fydd gan Dduw dy weithredoedd.
8Bydded dy ddillad yn lân bob amser, ac na fydded diffyg olew ar dy benn.
9Dwg dy fŷd gyd a’th wraig annwyl holl ddyddiau dy fywyd ofer y rhai a roddes Duw i ti tann yr haul dy holl ddyddiau ofer, canys dyna dy rann di yn dy fywyd, ac yn dy lafur yr hwn a gymmeri tann yr haul.
10Beth bynnac a ymafel dy law ynddo iw wneuthur, gwna a’th holl egni, canys nid oes na gwaith na dychymmyg, na gŵybodaeth, na doethineb yn y bedd lle yr wyt ti yn myned.
11Mi a drois ac a welais tann haul, nad yw rhedfa eiddo’r cyflym, na’r rhyfel yn eiddo’r cedyrn, na’r bwyd yn eiddo’r doethion, na chyfoeth yn eiddo’r pwyllog, na ffafr yn eiddo’r dyscêdig: ond amser, a damwain a ddigwydd iddynt oll.
12Ie ni ŵyr dŷn ei amser mwy na’r pysc a ddelir a’r rhwyd, mwy na’r adar a ddelir yn y delm: fel y rhai hyn, felly y delir plant dynnion yn amser blinder, pan syrthio efe arnynt hwy yn ddisymmwth.
13Hefyd y doethineb hyn a welais i tann haul, ac sydd fawr gennif fi.
14[Yr oedd] rhyw ddinas fechan, ac ynddi ychydig o bobl, a brenin galluog a ddaeth yn ei herbyn hi, ac ai hamgylchynodd, ac a gododd glawdd vchel yn ei herbyn.
15A chafwydd ynddi ŵr tlawd doeth, yr hwn ei hunan a waredodd y ddinas honno ai ddoethineb, etto ni choffâe neb am y gŵr tlawd hwnnw.
16Yna y dywedais, mai gwell yw doethineb nâ nerth, er bôd yn dirmygu doethineb y tlawd, ac heb wrando ar ei eiriau ef.
17Geiriau y doethion isel eu gradd a ddylid eu gwrando rhagor bloedd pen-llywydd ai ffyliaid gyd ag ef.
18Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel, ond vn pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.