1Yr annuwiol a ffŷ heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn ydynt gyffelyb i lew ieuangc hyf.
2O herwydd camwedd gwlâd, aml fydd ei phennaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol y peru yn hir.
3Gŵr tlawd yn gorthrymmu rhai tlodion sydd debyg i lif-ddwfr yn difetha llynniaeth.
4Y neb a dorrant gyfraith a ganmôlant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith a ymladdant â hwynt,
5Dynnion annuwiol ni ddehallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd a ddeallant bob peth.
6 Pen.19.1. Gwell yw yr tlawd a rodio yn iniawn, na’r traws ei ffyrdd, ac yntef yn gyfoethog.
7Y neb a gadwo’r gyfraith sydd fab dehallus: ond y neb a fyddo cydymmaith i ond y loddest-wŷr a gywilyddia ei dâd.
8Y neb a chwanego ei gyfoeth drwy vsuriaeth ac occreth sydd yn tyrru i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.
9Y neb a drŷ ei glust rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.
10Y neb a ddêno’r cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.
11Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus ai chwilia ef.
12 Pen.29.2. Pan fyddo llawen y cyfiawn, mawr yw yr anrhydedd: ond pan dderchafer yr annuwolion y chwilir dŷn.
13Y neb a guddio ei bechodau ni lwydda: ond y neb ai haddefo ac ai gedŷ, efe a gaiff drugaredd.
14Gwyn ei fŷd y dŷn o ofno yn oeastadol, ond y neb a galedo ei galon a ddigwydda i ddrwg.
15Fel y llew rhuadus, a’r arth newynog yw llywydd annuwiol i bobl dlodion.
16Pennadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasâo gybydd-dra a estyn ei ddyddiau.
17Dŷn a erlidier o herwydd gwaed dŷn a ffŷ i’r pwll, ac nac amddeffynned neb ef.
18Y neb a rodio yn iniawn a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd a syrth am hynny.
19 Pen.12.11.|PRO 12:11. Eccl.20.21. Y neb a wrteithio ei dîr a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwŷr a lenwir o dlodi.
20Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a bryssuro i fod yn gyfoethog ni bydd dieuog.
21Nid da derbyn wyneb, canys y cyfryw ŵr am dammaid o fara a wna gam.
22Gŵr drwg ei lygaid a bryssura i chwanegu ei gyfoeth: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno ef.
23Y neb a geryddo ddyn a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr, na’r neb a draetho weniaith ai dafod.
24Y neb a yspeilio ei dâd neu ei fam, ac a ddywed, nid yw hyn bechod, sydd gymmar i ddinistriwr.
25Gŵr vchel ei feddwl a enynna gynnen: ond y neb a ymddyriedo yn yr Arglwydd a borthir yn frâs.
26Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog a achub ei hun.
27Y neb a roddo i’r tlawd ni bydd angen arno: ond y neb a drŷ ei lygaid oddi wrtho a gaiff lawer o felldithion.
28Pan Pen.29.2.dderchafer yr annuwiolion, rhaid i’r dŷn ymguddio, ond wedi darfod am danynt yr amlhêir y cyfiawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.