1Yna y ffoawdd Dafydd o Naioth yn Ramah, ac a ddaeth, ac a ddywedodd ger bron Ionathan, beth a wneuthum? beth fy anwiredd, a pheth fy mhechod o flaen dy dâd ti, gan ei fod efe yn ceisio fy enioes i?
2Ac efe a ddywedodd wrtho, na atto Duw, ni byddi farw, wele ni wnaiff fy nhâd na pheth mawr, na pheth bychan heb fynegu i mi: pa ham gan hynny y cêle fy nhâd y peth hyn oddi wrthifi? ni hyn.
3Yna Dafydd a dyngodd eilwaith, (ac a ddywedodd, dy dâd a ŵyr yn hyspys i mi gael ffafor yn dy olwg di, am hynny y dywedodd, na chaffed Ionathan ŵybod hyn rhac ei dristau ef: ) cyn wîred a bod yr Arglwydd yn fyw, a’th enaid dithe yn fyw onid megis camm rhyngofi ag angeu.
4Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd: dywet beth dy ewyllys, a mi ai cwplhaf i ti.
5A Dafydd a ddywedodd wrth Ionathan, wele mis foru, a minne gan eistedd a ddylwn eistedd gyd a’r brenin i fwytta: gollwng fi gan hynny fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd bryd nawn y trydydd
6Os dy dâd gan goffau a goffa am danaf: yna y dywedi, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennifi i redeg i Bethlehem ei ddinas ei hun, canys Pen.1.21.aberth blynyddawl yno gan yr holl genedl.
7Os fel hyn y dywed efe, dâ, heddwch i’th wâs: ond os gan ddigio y digia efe gwybydd fod y malis wedi ei baratoi gāddo ef.
8Felly y gwnei drugaredd a’th wâs Pen.18.3|1SA 18:3 & 23.18.canys mewn cyfammod yr Arglwydd y dugaist dy was gyd a thi: ac od oes anwiredd ynofi, lladd di fi, canys i ba beth y dygi di fi at dy dâd?
9Yna y dywedodd Ionathan, na atto Duw i ti: canys os gan wybod y caf wybod fod y malis wedi ei baratoi gan fy nhâd i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn i ti?
10A Dafydd a ddywedodd wrth Ionathan, pwy a fynega i mi os ettyb dy dâd ti ddim yn galed?
11Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd, tyret fel yr elom i’r maes: ac hwy a aethant ill dau i’r maes.
12Dywedodd Ionathan hefyd wrth Ddafydd, Arglwydd Dduw Israel y chwiliafi fy nhad yng-hylch y pryd y foru drennydd, ac os daioni tu ag at Ddafydd, ac oni anfonaf yna attati fel y mynegwyf it,
13Fel hyn y gwnel yr Arglwydd i Ionathan ac y chwanego: os da fydd gan fy nhad y drwg i’th erbyn yna y mynegaf it, ac a’th ollyngaf fel yr elech mewn heddwch: a bydded yr Arglwydd gyd a thi, megis y bu gyd a’m tad i.
14Felly nid tra fyddwyfi byw, ac nid a mi y gwnei drugaredd yr Arglwyd fel na byddwyf marw:
15Ond na thorr ymmaith dy drugaredd a’m tŷ maufi byth, na phan ddestruwio’r Arglwydd elynnion Dafydd bob vn oddi ar wyneb y ddaiar.
16Felly y cyfammododd Ionathan a thŷ Ddafydd gofynned yr Arglwydd oddi ar law gelynion Dafydd
17Yna y chwanegodd Ionathan dyngu wrth Ddafydd, o herwydd efe ai care ef: (canys fel ei enaid ei hun y care efe ef. )
18Ac Ionathan a ddywedodd wrtho ef, y foru mis, a thi a goffeir, am y bydd dy eisteddle yn wâg.
19Wedi i ti lechu dridieu yna tyret i wared yn fuan, a thyret i’r lle yr hwn yr ymguddiaist ynddo, 1.Sam.19.2.yn y dydd y gwaith hyn ac aros wrth faen Ezel.
20A mi a saethaf dair o saethau at ystlys fel pes gollyngwn at nôd.
21Wele hefyd mi a anfonaf y llangc dôs, cais y saethau: os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llangc, wele y saethau oddi wrthit o’r tu ymma i ti dwg hwynt: yna tyret ti, canys heddwch i ti, ac ni bydd dim mai byw yw ’r Arglwydd.
22Ond os fel hyn y dywedaf wrth y bachgen, wele y saethau oddi wrthit o’r tu hwnt: dôs ymmaith, canys yr Arglwydd a’th anfonodd ymmaith.
23Am y peth yr hwn a leferais i, mi a thi: wele ’r Arglwydd rhyngofi, a thi yn dragywydd.
24Felly ’r ymguddiodd Dafydd yn y maes, a phan oedd y dydd cyntaf o’r mis, y brenin a eisteddodd wrth y bwyd i fwytta.
25Ie y brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill, ar yr eisteddfa wrth y pared, ac Ionathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul: a lle Dafydd oedd wag.
26Ac nid yngênodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd damwain hyn, am nad efe lân, o herwydd yn aflan
27A bu drannoeth, yr ail o’r mis fod lle Dafydd yn wâg: yna y dywedodd Saul wrth Ionathan ei fâb, pa ham na ddaeth mab Isai at y bwyd na doe, na heddyw?
28Yna Ionathan a attebodd Saul: Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi hyd Bethlehem.
29Canys efe a ddywedodd, gollwng fi attolwg, o herwydd ein tylwyth ni aberth yn y ddinas, a’m brawd yntef a’m gwahoddodd i, ac yn awr o chefais ffafor yn dy olwg di, gad i’m fyned attolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr: o herwydd hyn ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.
30Yna y llidiodd digter Saul yn erbyn Ionathan, ac efe a ddywedodd wrtho, fab y gyndyn wrthnyssic, oni ŵyddwn i ti ddewis mab Isai yn wradwydd it, ac yn gywilydd gwarth i’th fam?
31Canys yr holl ddyddiau ar y byddo mab Isai yn fyw ar y ddaiar, ni’th sicrheuir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny, anfon, a chyrch ef attaf, canys marwolaeth efe.
32Yna Ionathan a attebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho: pa ham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?
33Yna Saul a ergydiodd y waiw-ffon tu ag atto ef, iw daro ef: wrth hyn y gwybu Ionathan y bwriad ymma gan ei dâd ef, sef lladd Dafydd.
34Felly Ionathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid digllawn: ac ni fwyttâodd fwyd yr ail dydd o’r mis, canys gofidiodd dros Ddafydd, o herwydd iw dâd ei wradwyddo ef.
35A’r borau, yr aeth Ionathan i’r maes erbyn yr amser a osodase ef i Ddafyd: a bachgen bychan gyd ag ef.
36Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, rhêd, cais yn awr y saethau, y rhai ’r ydwyfi yn eu saethu: y bachgen a redodd, yna yntef a saethodd saeth gan gyrheuddyd trosto ef.
37Pan ddaeth y bachgen hyd y fan y saeth yr hon a saethase Ionathan: yna y llefodd Ionathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, onid y saeth ennyd oddi wrthit o’r tu hwnt?
38Llefodd Ionathan drachefn ar ôl y bachgen, cyflymma, bryssia, na saf: yna bachgen Ionathan a gasclodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.
39A’r bachgen ni ŵydded ddim, onid Ionathan a Dafydd a wyddent y peth.
40Yna Ionathan a roddes ei offer at y bachgen yr hwn gyd ag ef, ac a ddywedodd wrtho ef, dos, dûg i’r ddinas.
41Y bachgen a aeth ymmaith, yna Dafydd a gyfododd o’r tu dehau ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymmodd dair gwaith: a hwy a ymgusanasant bob vn ei gilydd, ac a ŵylasant y naill wrth y llall, a Dafydd a ragorodd.
42Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd, dôs mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw ’r Arglwydd gan ddywedyd, yr Arglwydd fyddo rhyngofi a thi, a rhwng fy hâd i, a’th hâd dithe, yn dragywydd.
43Yna a gyfododd ac a aeth ymmaith: ac Ionathan a ddaeth i’r ddinas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.