1Y nailltuol a gais ei ddeisyfiad ac a ymmyr â phob peth.
2Y ffôl nid hoff ganddo wybodaeth: ond traethu ei feddwl ei hûn a gâr efe.
3Wrth ddyfodiad y drugionus y daw diystyrwch: a chyd a’r gwael gwradwydd.
4Geiriau yng-enau gŵr ynt fel dyfroedd dyfnion: a ffynnon doethineb sydd megis afon redegog.
5Nit da derbyn wyneb yr annuwiol: gan wneuthur cam ar cyfiawn mewn barn.
6Gwefusau y ffôl a ddechreûant gynnen: ai enau a eilw am ddyrnodiau.
7Genau y ffôl ai dinistr ei hun: ai wefusau ef ynt fagl iw enaid.
8Geiriau’r athrod-wr ydynt megis archollion: ac a ddescynnant i gilfachau y bol.
9Y neb a fyddo diog yn ei waith sydd wir frawd i’r llygrwr.
10Tŵr cadarn yw enw’r Arglwydd: atto y rhed y cyfiawn, ac efe a dderchefir yn ddiogel.
11 Pen.10.15. Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fûr vchel, yn ei dŷb ei hun.
12 Pen.16.18. Cyn dinistr y balchia calon gŵr: a chyn anrhydedd yr aiff gostyngeiddrwydd.
13Y Eccls.11.8neb a attebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.
14Yspryd gŵr a gynnal ei ddolur: ond yspryd cystuddiedig pwy ai cyssura?
15Calon y pwyllog a berchennoga wybodaeth: a chlûst y doethion a gais ddeall.
16Rhodd dŷn a ehanga arno: ac ai dwg ef ger bron penaethiaid.
17Y cyntaf yn ei hawl a dybbir ei fod yn gyfiawn: hyd pan ddelo ei gymmydog ai chwilio ef.
18Y coel-bren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.
19Anhaws yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: ai ymryson rhwng brodyr sydd megis trosol castell.
20A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol: ac o ffrwyth y gwefusau y digonir pob dŷn.
21Angeu a bywyd ydynt ym meddiant y tafod: ac fel i bo hoff ef y bwyteir ei ffrwyth ef.
22Y neb sydd yn cael gwraig sydd yn cael peth daionus: ac yn derbyn ewyllys da gan yr Arglwydd.
23Y tlawd a ymbil: a’r cyfoethog â ettyb yn erwin.
24Y neb y mae iddo gefeillion, cadwed gariad: canys nês yw gŵr caredig na brawd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
