1Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaiar yn wâg, ac yn ei difwyno hi, canys efe a ostwng ei hwyneb hi, ac a wascar ei thrigolion.
2Yna y bydd yr vn fath y bobl a’r offeiriad, y gwâs a’r meistr, y llaw-forwyn a’r feistres, y prynudd ac i’r gwerthudd, yr hwn a roddo, ac y gymmero echwyn, yr hwn a dalo lôg, a’r hwn ai cymmero ganddo.
3Gan waghau y gwagheuir, a chan yspeilio ’r yspeilir y wlâd, canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.
4Galarodd diflannodd y tir, llescâodd dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaiar.
5Y ddaiar hefyd a halogwyd tann ei phresswyl-wŷr, canys troseddâsant gyfreithiau, newidiâsant y ddeddfau, diddymmâsant y cyfammod tragywyddol.
6Am hynny melldith a yssodd y tîr, a’r rhai oeddynt yn trigo ynddo a anrheithiwyd am hynny: presswyl-wŷr y tîr a loscwyd, ac ychydig ddynnion a weddillwyd.
7Pallodd y gwîn, llescaodd y win-wŷdden, y rhai llawen o gallon oll a riddfanâsant.
8Darfu llawenydd y tympânau, peidiodd trwst y gorfoledd-wŷr, darfu hyfrydwch y delyn,
9Nid yssant win dan gânu, chwerw fydd diod gref i’r rhai ai hyfant hi.
10Drylliwyd dinas gwagedd, caewyd pôb tŷ, fel na ddeler i mewn.
11[Y mae] llefain am y gwîn yn yr heolydd; tywyllodd pôb llawenydd, hyfrydwch y tîr a fudodd ymmaith.
12Yn y ddinas y gadawyd anghyfanneddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.
13Diau y bydd o fewn y tîr yng-hanol y bobloedd megis escydwad oliwŷdden, fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaiaf y gwîn.
14Y rhai hyn a dderchafant eu llef, a ganant: o’r gorllewyn y gorfoleddant o herwydd godidawgrwydd yr Arglwydd.
15Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd: ac enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr.
16O eithafoedd y ddaiar y clywsom gâniadau, gogoniant i’r cyfiawn: yna y dywedais ô fyng-hulni, ô fyng-hulni gwae fi, y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, îe gwnaethant o’r fath anffyddlonaf.
17Dychryn, a ffôs, a magl i’th erbyn bresswyludd y tîr.
18Felly’r hwn a ffŷ rhag trwst y dychryn a syrth yn y ffôs, a’r hwn a gyfodo o ganol y ffôs a ddelir yn y fagl: o herwydd ffenestri yn yr vchelder a agorwyd, a seiliau y ddaiar ydynt yn crynu.
19Gan ddryllio’r ymddrylliodd y tîr, gan rwygo’r ymrwygodd y ddaiar, gan symmud yr ymsymmudodd y ddaiar.
20Y ddaiar gan symmud a ymsymmud fel meddwyn, ac a ymsigla megis pabell, ai chamwedd fydd trwm arni, ac hi a syrth fel na chyfodo mwy.
21Yr amser hwnnw’r ymwel yr Arglwydd â llu’r vchelder yn yr vchelder, ac â brenhinoedd y ddaiar ar y ddaiar.
22A chesclir hwynt fel y gasclfa, wedi eu rhwymo mewn daiar-dŷ, ac hwy a garcherir mewn carchar, ac ym mhen llawer o ddyddiau’r ymwelir â hwynt.
23Yna y lleuad a wrîda, a’r haul a gywilyddia pan deyrnaso Arglwydd y lluoedd ym mynydd Sion, ac yn Ierusalem, ac o flaen ei henuriaid gogoniant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.