Ioan 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Iesu yn cyssuro ei ddiscyblion erbyn blinder. 6 Yn dangos mai efe yw’r ffordd at y Tad. 16 Yn addo yr Yspryd glân iddynt. 21 Ac yn eu rhybuddio am ei fynediad at y Tad.

1 Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynofi hefyd.

2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau, a phe amgen mi a ddywedaswn i chwi, yr wyfi yn myned i baratoi lle i chwi.

3A phan elwyf, a pharatoi lle i chwi, mi a ddeuaf eilwaith ac a’ch cymmeraf ataf fy hun: fel lle yr wyfi, y byddoch chwithau hefyd.

4A chwi a ŵyddoch i ba le yr wyfi yn myned, a’r ffordd a ŵyddoch.

5Dywedodd Thomas wrtho: ô Arglwydd, ni ŵyddom ni i ba le yr aei di, am hynny pa wedd y gallwn ni ŵybod y ffordd?

6A’r Iesu a ddywedodd wrtho ef. Myfi yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.

7Pes adnabasech fi, fy Nhad hefyd a adnabasech: ac weithian yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef.

8Dywedodd Philip wrtho: ô Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon i ni

9Yr Iesu a ddywedodd, a ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac ni adnabuoch fi? Philip, y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad, pa wedd wrth hynny y dywedi di? dangos i ni y Tad.

10Onid wyt yn credu fy môd i yn y Tad, a’r Tad ynof-inne? y geiriau y rhai yr wyfi yn eu traethu wrthych, nid o honofi fy hun yr wyf yn eu traethu, ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.

11Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof-inne: ond ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd.

12Yn wîr yn wîr meddaf i chwi yr hwn a gredo ynofi, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur, yntef a’u gwna, a mwy nâ’r rhai hynny a wna efe: canys at y Tad yr wyf yn myned.

13 O cherwch fi, cedwch fyng-orchymynnion.

16A mi a weddiaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi ddiddanwr arall, i aros gyd â chwi yn dragywyddol:

17Yspryd y gwirionedd yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, ac am nad yw yn ei adnabod ef. Ond chwi a’r hadwaenoch ef, o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe,

18Nis gadawaf chwi yn ymddifaid, mi a ddeuaf attoch chwi.

19Etto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy: eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyfi, a byw fyddwch chwithau.

20Y dydd hwnnw y gŵybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwi ynofi, a mine ynoch chwithau.

21Y neb sydd a’m gorchymynnion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fyng-haru i: a’r sawl sydd yn fyng-haru i a gerir gan fy Nhad i, a minne a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hûn iddo ef.

22Dywedodd Iudas wrtho: (nid yr Iscariotes) ô Arglwydd, pa beth yw’r achos yr egluri dy hun i ni, ac nid i’r bŷd?

23A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho: os câr neb fi, efe a geidw fyng-air, a’m Tâd di câr yntef: a nyni a ddeuwn atto, ac a arhoswn gyd ag ef.

24Y neb ni’m câr i, ni cheidw mo’m geiriau, a’r gair a glywsoch, nid eiddo fi ydyw, ond eiddo y Tâd yr hwn a’m hanfonodd i.

25Hyn a ddywedais wrthych yn aros gyd â chwi.

26 Ioan.15.20. Eithr y diddanudd yr Yspryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy enw i, hwnnw a ddysc i chwi bob peth, ac a eilw bob peth yn eich cof chwi, a’r a ddywedais i wrthych.

27Yr wyf yn gadel i chwi dangnheddyf, fy nhangneddyf yr ydwyf yn ei rhoddi i chwi, nid fel y mae y byd yn rhoddi yr wyf fi yn rhoddi, na thralloder eich calon, ac nac ofned.

28Clywsoch fel y dywedais wrthych: yr wyf yn myned ymmaith, a deuaf attoch, pe carasech fi, llawenasech, am i mi ddywedyd: yr wyf yn myned at y Tâd: canys y mae fy Nhâd yn fwy nâ myfi.

29Ac yr awr hon y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel y credoch pan ddelo.

30Yn ôl hyn ni ddywedaf nemmawr wrthych: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ond nid yw efe yn cael dim ynofi.

31Ond fel y gwypo yr bŷd fy mod i yn caru y Tad, ac megis y gorchymynnodd y Tâd i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi ymma.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help