Luc 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.Crist yn erchi iw ddiscyblion na rwystrent neu na thrāgwyddent y naill y llall. 3 a maddeu o honynt iw gylidd. 6 gan ddangos mor gref iw ffydd 10 ac mor wan yw dyn o honaw ei hun, Crist yn iachau dêc o rai gwahan-gleifion, 20 ac yn mynegu am ddiwed y byd.

1Yna y dywedodd efe wrth ei ddiscyblion, A digwyddodd, ac efe yn myned i Ierusalem, fyned o honaw ef trwy ganol Samaria a Galilæa.

12A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, y cyfarfu ag ef ddec o wŷr gwahân-gleifion: y rhai a safasant o hirbell,

13Ac a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu y meistr, trugarha wrthym.

14A phan welodd efe efe a ddywedodd wrthynt: ewch, Lefit.14.2.ymddangoswch i’r offeiriaid. Ac fe a ddarfu a hwy yn myned eu gwneuthur yn iach.

15Ac vn o honynt, pan welodd ddarfod ei iachau, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef vchel.

16Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan roddi diolch iddo, a hwnnw oedd Samariad.

17Yna’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd: oni lânhauwyd deg? a pha le y mae’r naw

18Ni châed nêb a ddaeth i roddi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.

19Ac efe a ddywedodd wrtho: cyfot, a dôs ymmaith, dy ffydd a’th iachaodd.

20A phan ofynnodd y Pharisæaid iddo, pa bryd y deue deyrnas Dduw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd: ni ddaw teyrnas Dduw wrth ei disgwil.

21Ac ni ddywedant, wele ymma, neu wele accw, canys wele, y mae genych deyrnas Dduw o’ch mewn.

22Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion: yr amser a ddaw, pan ddymunoch weled vn o ddyddiau Mâb y dŷn: ac nis cewch eu gweled.

23A hwy a Math.24.23. Marc.13.21.ddywedant wrthych, wele ymma, neu wele accw: nac ewch, ac na chanlynwch

24Canys megis y fellden yr hon a ddiscleirio o’r naill fann dann y nef, a lewyrcha yn y fann arall dan y nef: felly y bydd Mâb y dŷn yn ei ddydd ef.

25Eithr yn gyntaf rhaid iddo ei ddioddef llawer, a’i ddiystyru gan y genhedlaeth hon.

26A megis y bu yn Gene.7.5. Math.24.38. 1.Petr.3.20.nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mâb y dŷn.

27Bwyttasant, yfasant, gwreiccasant, a gŵrhasant, hyd y dydd yr aeth Noe i’r arch: yna y daeth y diluw, ac au difethodd hwynt oll.

28Yn yr vn modd hefyd, fel y darfu yn nyddiau Lot: bwyttasant, yfasant, prynasant, gwerthasant, plannasant, adeiladasant.

29A’r Gene.19.24. dydd yr aeth Lot allan o Sodoma, y glawiodd tân, a brwmstân o’r nef, ac au difethodd hwynt oll.

30Fel hyn y bydd y dydd, y dadcuddir Mâb y dŷn.

31Yn y dydd hwnnw, y nêb a fyddo ar y tŷ, ai ddodrefn o fewn y tŷ, na ddescynned iw cymmeryd hwynt: a’r vn modd, y nêb a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl.

32 Gen.19.26. Meddyliwch am wraig Lot.

33 Pen.9.24.|LUK 9:24. Math.10.39. Marc.8.35. Ioan.12.25. Pwy bynnag a geisio gadw ei einnioes, ai cyll: a phwy bynnag ai cyll, ai bywha hi.

34Y nôs honno Mat.24.40,41.meddaf i chwi y bydd dau yn yr vn gwely: vn a gymmerir, a’r llall a adewir.

35Dwy a fyddant yn malu yn yr vn lle: vn a gymmerir, a’r llall a adewir.

36Dau a fyddant yn y maes: vn a gymmerir, a’r llall a adewir.

37Yna gan atteb y dywedasant wrtho ef: pa le Arglwydd? ac efe a ddywedodd wrthynt: pa le bynnag y byddo’r corph, yno yr ymgasgl yr eryrod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help