1Yna Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fynu, ac a werssyllodd yn erbyn Iabes Gilead: a holl wŷr Iabes a ddywedasant wrth Nahas, gwna gyfammod a ni, ac ni a’ch wasanaethwn di.
2A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, yn hyn y cyfammodaf a chwi, drwy dynnu ymmaith bob llygad dehau i chwi, fel y gosodwyf y gwradwydd hyn ar holl Israel.
3Yna henuriaid Iabes a ddywedasant wrtho, paid a ni saith niwrnod, fel yr anfonom gennadau i holl derfynau Israel, ac oni a’n gwaredo, yna y deuwn allan attat ti.
4A’r cennadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl: a’r holl bobl a dderchafasant eu llef, ac a ŵylasant.
5Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes, yna y dywedodd Saul beth sydd yn peri i’r bobl ŵylo? yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Iabes.
6Yna yspryd Duw a ddaeth ar Saul pan glybu efe y geiriau hynny: ai ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.
7Ac efe a gymmerth iau o ychen, ac ai drylliodd, ac danfonodd drwy holl derfynau Israel yn llaw y cennadau gan ddywedyd: yr hwn nid elo ar ôl Saul, ac ar ôl Samuel fel hyn y gwneir iw wartheg ef: ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, ac hwy a aethant allan yn gytûn.
8Pan gyfrifodd efe hwynt yn Bezec, yna meibion Israel oeddynt dry-chan mil, a gwŷr Iuda yn ddeng-mil ar hugain.
9Yna y dywedasant wrth y cennadau a ddaethent, fel hyn y dywedwch wrth wŷr Iabes Gilead, y foru erbyn gwressogi’r haul y bydd i chwi ymwared: felly y cennadau a ddaethant, ac a fynegasant i wŷr Iabes, a hwytheu a llawenychasant.
10Am hynny gwŷr Iabes a ddywedasant, y foru y deuwn allan attoch chwi, ac y gwnewch i ni, yn ôl oll a weloch yn dda.
11Yna y daeth Saul drannoeth, ac a osododd y bobl yn dair byddin, a hwy a ddaethant i ganol y gwerssyll yn y wiliadwriaeth foreu, ac a darawsant yr Ammoniaid nes gwressogi o’r dydd: a’r gweddillion yna a wascarwyd fel na thrigodd o honynt ddau yng-hyd.
12Yna y dywedodd y bobl wrth Samuel, pwy sy yn dywedyd, a deyrnasa Saul arnom ni? rhoddwch y gwŷr hynny fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.
13A Saul a ddywedodd, na rodder neb i farwolaeth heddyw: canys heddyw y gwnaeth yr Arglwydd ymwaredd yn Israel.
14Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, deuwch fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno.
15Felly’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gosodasant Saul yn frenin ger bron yr Arglwydd yn Gilgal, a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd ger bron yr Arglwydd: am hynny Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel yn ddirfawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
