1Ac Iephthah y Gileadiad oedd cadarn nerthol, ac efe fab i wraig ordderch: a Gilead a genhedlase’r Iephthah hwnnw.
2A gwraig Gilead a ymddug iddo feibion: a meibion y wraig a gynnyddasant, ac a fwriasant ymmaith Iephthah, ac a ddywedasant wrtho ef, nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni, canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti.
3Yna Iephthah a ffôdd rhac ofn ei frodyr, ac a drigodd yng-wlad Tob: a’r gwâg ddynion ofer a ymgasclasant at Iephthah, ac a aethant allan gyd ag ef.
4Ac wedi o ddyddiau meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel.
5A phan oedd meibion Ammon yn ymladd ag Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Iephthah o wlâd Tob.
6A dywedasant wrth Iephthah, tyret a bydd i ni yn dywysog: fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon.
7Yna Iephthah a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, onid chwi a’m casauasochi, ac a’m gyrrasoch o dŷ fy nhad? pa ham y deuwch attafi ynawr pan yn gyfyng arnoch?
8A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Iephthah, am hynny y dychwelasom yn awr attat ti fel y delyt gyd ani, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon: ac y byddit i ni yn bennaeth ar holl drigolion Gilead.
9Ac Iephthah a ddywedodd wrth henuriaid Gîlead, o throiwch fi yn ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o’r Arglwydd hwynt o’m blaen i, a fyddaf fi’n bennaeth arnoch chwi?
10Yna henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Iephthah: yr Arglwydd fyddo’n dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di.
11Felly Iephthah a aeth gyd ag henuriaid Gilead, a’r bobl ai gosodasant ef yn bennaeth ac yn dywysog arnynt: ac Iephthah a adroddodd ei holl eiriau ger bron yr Arglwydd yn Mispah.
12Yna Iephthah a anfonodd gennadau at frenin meibion Ammon gan ddywedyd: bethi mi a a thi fel y delit ti attafi i ymladd yn erbyn fyng-wlâd i?
13A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth gennedau Iephthah, o Num.21.13.herwydd i Israel ddwyn fyng-wlâdi, (pan ddaeth efe i fynu o’r Aipht) o Arnon hyd Iabboc, ac hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod adref hwynt mewn heddwch.
14Ac Iephthah a chwanegodd etto: ac a anfonodd gennadau at frenin meibion Ammon,
15Ac efe a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywedodd Iephthah: Deut.2.9.ni ddûg Israel dîr Moab, na thîr meibion Ammon.
16Ond pan ddaethant hwy i fynu o’r Aipht: yna Israel a rodiodd mewn anialwch hyd y mor côch, ac a ddaeth i Cades.
17Ac Num.20.14,Israel a anfonodd gennadau at frenin Edom gan ddywedyd, gâd i mi drammwy attolwg drwy dy wlâd ti, ond ni wrandawodd brenin Edom, ac efe a anfonodd hefyd at frenin Moab, ond ni fynne yntef felly Israel a arhosodd yn Cades.
18Yna hwynt a rodiasant yn yr anialwch, ac a amgylchynasant wlâd Edom, a gwlâd Moab, ac a ddaethant o du codiad haul i wlâd Moab, ac hwy a werssyllasant tu hwnt i Arnon: Num.21.13.|NUM 21:13. 22.24.ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab, canys Arnon derfyn Moab.
19Israel Deut.2.26.a anfonodd gennadau at Sehon brenin yr Amoriaid,brenin Hesbon: ac Israel a ddywedodd wrtho, gâd i ni drammwy attolwg drwy dy wlâd ti hyd ein glwâd.
20Ond nid ymddyriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef, eithr Sehon a gasclodd ei holl bobl, ac hwy a werssyllasant yn Iasa: ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel.
21Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon ai holl bobl yn llaw Israel, a’r ai tarawsant hwynt: felly Israel a orescynnodd holl wlâd yr Amoriaid trigolion y wlâd honno.
22Gorescynnasant hefyd Deut.2.36.holl derfynau’r Amoriaid: o Arnon hyd Iabboc, ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen.
23Felly yn awr Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny tydi ai meddiannit hi?
24Ond yr hyn a orescyn Chamos dy dduw di a feddienni di? a’r hyn oll a orescynno’r Arglwydd ein Duw o’n blaen ni a feddiannwn ninnnau?
25Ac yn awr a wyt ti yn well na Num.22.2. Deut.23.4. Iosua.24.9.Balac mab Ziphôr brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymladdodd efe iw herbyn hwy?
26Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon, ac yn ei phentrefydd, ac yn Aroer, ac yn ei phentrefydd ac yn yr holl ddinasoedd y rhai wrth derfynau Arnon, drychant-mhlynedd? pa ham nad achubasoch y pryd hynny?
27Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di, ond yr ydwyt ti’n gwneuthur cam a mi, gan ymladd yn fy erbyn i: yr Arglwydd yr hwn farn-wr a farno heddyw rhwng meibion Israel a meibion Ammon.
28Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Iephthah y rhai a anfonase efe atto.
29Yna y daeth yspryd yr Arglwydd ar Iephthah, ac efe a aeth tresodd i Gilead, ac i Manasses: aeth hefyd trosodd i Mispah Gilead, ac o Mispah Gilead yr aeth efe at feibiō Ammō.
30Ac Iephthah a addunedodd adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd: os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i,
31Yna’r hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ (i’m cyfarfod pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibiō Ammō) a fydd eiddo’r Arglwydd, a mi ai hoffrymma ef yn boeth offrwm.
32Felly Iephthah a aeth at feibion Ammō i ymladd yn eu herbyn: a’r Arglwydd ai rhoddodd hwynt yn ei law ef.
33Ac efe ai tarawodd hwynt o Aroer hyd y delech di i Mennith vgain nhinas, ac hyd wastadedd y gwinllanoedd a phlâ mawr iawn: felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.
34Pan ddaeth Iephthah i Mispah iw dŷ ei hun, yna wele ei ferch ef yn dyfod allan iw gyfarfod a thympanau, ac a dawnsiau: a hi ei vnic ef, nid ganddo fab na merch o honaw ei hun.
35A phan welodd efe hi, yna efe a rwygodd ei wiscoedd, ac a ddywedodd ahah fy merch gan ddarostwng y darostyngaist fi, ti hefyd ydwyt or rhai ydynt yn fy molestu: canys myfi a agorais fyng-enau wrth yr Arglwydd, ac ni allaf gilio.
36A hi a ddywedodd wrtho ef, fy nhad agoraist dy enau wrth yr Arglwydd gwna imi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau: wedi i’r Arglwydd wneuthur er dy fwyn di ddialedd ar dy elynnion di, meibion Ammon.
37Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thâd, gwneler i mi y peth hyn: paid a mi ddau fîs fel yr elwyf, ac yr arhoswyf ar y mynyddoedd ac yr ŵylwyf o herwydd fy morwyndod, mi a’m cyfeillesau.
38Ac efe a ddywedodd, dôs, ac ai gollyngodd hi ddau fis: felly hi a aeth ai chyfeillesau, ac a ŵylodd o herwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd.
39Ac ym mhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad, ac efe a wnaeth a hi’r adduned yr hon a addunase efe: a hi ni adnabuse ŵr, a bu yn ddefod yn Israel.
40Merched Israel a aent bob blwyddyn i alaru am ferch Iephthah y Gileadiad: bedwar diwrnod yn y flwyddyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.