Diharebion 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.

1 Psal.37.1. Pen.23.17. Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol: ac na ddeisyf fod gyd â hwynt.

2Canys eu calon a fefyria anrhaith; ai gwefusau a draethant flinder.

3Adailadir y tŷ drwy ddoethineb, a thrwy ddeall y siccrheuir ef.

4Thrwy ddeall y llenwir y celloedd o bob peth gwerth-fawr a hyfryd.

5Gŵr doeth sydd nerthol: a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.

6Canys Pen.20.18.trwy gallineb y gwnei dy ryfel: ac iechydwriaeth drwy laweroedd o gynghorion.

7Rhy vchel yw doethineb i ffôl: canys ni egyr ei enau yn y porth.

8Y neb a ddychymmygo drwg a elwir yn sceler.

9Scelerder y ffôl sydd bechod: a ffiaidd y dŷn gwatwarus.

10Os llwfrhêi mewn amser cyfyngder, bychan fydd dy nerth.

11Gwaret y rhai a luscir i angeu: canys pa ham yr ymmadewit a’r neb a dywysir iw lladd?

12Os dywedi, wele, ni wyddom ni hyn: onid yw mesurwr y calonnau yn dêall? a’r neb sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bawb yn ôl ei weithred?

13Fy mab bwyta fêl, canys da yw: a’r dil mêl canys blasus yw i’th enau.

14Felly gwybydd doethineb i’th enaid, os cei di hi, yn ddiau ti a gei obr, a’th obaith ni phalla.

15Na chynllwyn di yr annuwiol wrth drigfa’r cyfiawn, ac na anrheithia ei orphywysfa.

16Canys seith-waith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwolion a dramgwyddant mewn drygioni.

17Pan syrthio dy elyn na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:

18Rhag i’r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef

19 Psal.37.1. Pen.23.17. Nac ymddigia o herwydd y drwg weithredwŷr, na chynfigenna wrth yr annuwiolion.

20Canys ni bydd diben ar drygfyd Pen.13.9.a channwyll yr annuwolion a ddiffoddir.

21Fy mab ofna’r Arglwydd a’r brenin: ac nac ymmyr â’r annwadal.

22Canys yn ddisymmwth y cyfyd eu destruw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwynt ill dau?

23Dymma hefyd y doethion: nit da cydnabod braint mewn barn.

24Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Pen.17.15.|PRO 17:15. Esay.5.23.cyfiawn wyt, y bobl ai melldithiant ef: cenhedloedd fydd ffiaidd ganddynt ef.

25Ond i’r neb ai ceryddo y bydd hyfrydwch: a bendith dda a ddigwydd iddynt.

26Pawb a gusâna wefusau’r neb a attebo eiriau iniawn.

27Trîn dy orchwyl oddi allan, a dospartha yr hyn sydd i ti yn y maes: ac wedi hynny adailada dy dŷ.

28Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymmydog, ac na fydd ehud â’th wefusau.

29 Pen.20.22. Na ddywet ti, mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntef i minne, mi a dalaf i bawb yn ôl ei weithred.

30Mi a euthym heibio heb dyddyn y dyn diog, ac heb win-llan yr angall.

31Ac wele codase yscall ar hyd-ddo oll: danadl poethion a guddiasent ei wyneb: a’r fagwyr gerrig a syrthiase i lawr.

32Pan welais i hyn, mi a ystyriais, mi a edrychais, ac a gymmerais addysc.

33Ychydig gyscu, ychydig heppian, ychydig wascu’r dwylo i orwedd:

34Yng-hyfwng hyn y daw tlodi arnat, megis ymdeithudd, a’th angen fel gŵr arfog.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help