Gweledigaeth Ioan 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Y mae efe yn annog yr eglwysi a’u gweinidigion i wir broffesu ffydd, ac i wilio. 12 Gan wneuthur addewidion i’r rhai a barhânt.

1Scrifenna hefyd at angel yr eglwys yr hon sydd yn Sardis, hyn a ddyweodd yr hwn sydd a saith Yspryd Duw ganddo, ac a’r saith seren, mi a adwen dy weithredoedd, canys y mae enw i ti dy fôd yn fyw, ond yr ŵyt yn farw,

2Deffro, a chadarnhâ y lleill, y rhai ydynt yn barod i feirw, canys ni chefais i dy weithredoedd yn gyflawn ger bron Duw.

3Am hynny cofia pa bêth a dderbynniaist, ac a glywaist, a dal yn siccr, ac edifarhâ am hynny oni wili, mi a ddeuaf attat fel lleidr, ac ni chei ŵybod pa awr y deuaf attat,

4Eithr y mae gennit ychydig o henwau etto yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad, a’r rhai hynny a rodiant gyd â mi mewn dillad gwynion, canys teilwng ydynt.

5Yr hwn a orfyddo, a ddilladir mewn dillad gwynion, ac ni ddeleuaf ei henw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei henw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei angelion.

6Y nêb sydd â chlust ganddo, gwrandawed, pa bêth a ddywed yr Yspryd wrth yr eglwysi.

7Scrifenna hefyd at angel yr eglwys yr hō sydd yn Philadelphia, Esa 22.22.|ISA 22:22. iob.22.14.hyn a ddywed yr hwn sydd sanctaidd a chywir, yr hwn y mae ganddo agoriad Dafydd, yr hwn a egyr, ac ni chaea nêb, ac a gaea, ac ni egyr nêb,

8Mi a adwen dy weithredoedd, wele, mi a roddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon nêb ei gaeu, canys y mae gennit ychydig nerth, a thi a gedwaist fyng-air, ac ni wedaist fy henw.

9Wele, mi a wnaf iddynt hwy o Synagog Satan, y rhai a’u galwant eu hyn yn Iddewon, ac nid ydynt, ond y maent yn gelwyddog, wele meddaf, mi a wnaf iddynt ddyfod, ac anrhydêddu ger bron dy draed, a chydnâbod fy môd i yn dy gâru di,

10O achos i ti gadw gair sy nioddefgarwch i, am hynny mi a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr hôll fyd, iw profi hwynt y rhai ydynt yn trigo ar y ddaiar.

11Wele, yr ŵyf yn dyfod ar frŷs, dal yr hyn sydd gennit rhag i nêb ddwyn dy goron,

12Mi a wnaf yr hwn a orfyddo yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac nid aiff efe allan mwyach, ac mi a scrifennaf arno ef henw fy-Nuw i, a henw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Ierusalem newydd, yr hon sydd yn descyn o’r nêf, oddi wrth fy Nuw i, ac fy henw newydd i,

13Y nêb sydd â chlûst ganddo, gwrandawed pa beth a ddywed yr Yspryd wrth yr eglwysi.

14Scrifenna hefyd at angel eglwys y Laodiciaid, hyny mae Amen yn ei ddywedyd, y tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creaduriaid Duw,

15Mi a adwen dy weithredoedd, nid ydŵyt na thwymn, nac oer, mi a fynnwn pe bait naill ai twymn ai oer.

16Ac am hynny gan dy fôd yn glaiar, heb fôd nac yn oer, nac yn dwymn, mi a’th chwdaf di allan o’m genau,

17Canys yr ŵyt yn dywedyd, yr ŵyf i yn gyfoethog, a chennif amlder o dda, ac nid oes arnaf i eisieu dim, ac ni ŵyddost dy fôd yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth,

18Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennifi aur wedi ei buro trwy dân fel i’ch gyfoethoger, a dillad gwynion fel i’th wiscer, ac fel nad ymddangôso gwarth dy noethder di, îra hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech,

19Yr ŵyf yn ceryddu, ac yn cospi y sawl yr ŵyf yn eu caru, am hynny cymmer zêl, ac edifarhâ.

20Wele, yr ŵyf yn sefyll wrth y drŵs, ac yn curo, o chlyw vn dyn fy llais, ac agoryd y drŵs, mi a âf i mewn atto ef, ac a swperaf gyd ag ef, ac yntef gyd â minne.

21Yr hwn a orfyddo mi a roddaf iddo ef eistedd gyd â mi ar fyng-orseddfaingc, fel y gorfum i, ac yr eisteddais gyd â fy Nhad ar ei orsedd-faingc ef.

22Y nêb sydd â chlûst ganddo, gwrandawedd pa beth a ddywed yr Yspryd wrth yr eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help