1Yr oedd gŵr yng-wlâd Hus ai enw Iob: ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith, ac yn iniawn, yn ofni Duw hefyd, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.
2Ac iddo ef y ganwyd saith o feibion, a thair merched.
3Ai olud ef oedd saith mîl o ddefaid, a thair mil o gamêlod, a phum cant iaû o ŷchen, a phum cant o assynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion: ac yr oedd y gŵr hwnnw yn fwy na holl feibion y dwyrain.
4Ai feibion ef a aent, ac a wnaent wlêdd, pob vn dŷ ei ddiwrnod: anfonent hefyd, a gwahôddent eu tair chwiorydd i fwytta, ac i yfed gyd a hwynt.
5A phan ddele dyddiau y wlêdd oddi amgylch, yna Iob a anfone, ac ai sancteiddie hwynt, cyfode hefyd yn foreu, ac offrymme boeth offrymmau eu rhifedi hwynt oll, canys dywede Iob, fy meibion ond odid a bechasant, ac a felldithiasant Dduw yn eu calonnau: felly y gwnae Iob yr holl ddyddiau hynny.
6A’r dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod, a sefyll ger bron yr Arglwydd: a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.
7Yna’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, o ba le’r ydwyt yn dyfod? a Satan a attebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, o amgylchu y ddaiar, ac o ymrodio ynddi.
8A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan, a ddelaist ti sulw ar fyng-wâs Iob, nad gyffelib iddo ef ar y ddaiar? yn ŵr perffaith, ac iniawn yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.
9Yna Satan a attebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd: ai yn ddiachos y mae Iob yn ofni Duw?
10Oni chaeaist oi amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac yng-hylch yr hyn oll eiddo ef oddi amgylch? fendithiaist waith ei ddwy-law ef, fel y cynnyddodd ei ddâ ef ar y ddaiar?
11Eithr estyn yn awr dy law, Iob.2.5.a chyffwrdd a’r hyn oll ganddo: oni felldiga efe di o flaen dy wyneb.
12Yna’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, wele’r hyn oll eiddo ef yn dy law di, yn vnic yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law: felly Satan a aeth allan oddi ger bron yr Arglwydd.
13A’r dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef ai ferched yn bwyta, ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf,
14Yna cennad a ddaeth at Iob, ac a ddywedodd: yr ŷchen oeddynt yn aredic, a’r assynnod oeddynt yn pori ger eu llaw hwynt,
15Ond y Sabeaid a ruthrasant, ac ai dugasant ymmaith, y llangciau hefyd a darawsant hwy a mîn y cleddyf: a minne fy hunan a ddiengais yn vnic i fynegu i ti.
16Tra’r ydoedd hwn yn llefaru, yna arall a ddaeth, ac a ddywedodd, tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd, ac a loscodd y defaid, a’r gweision, ac ai hyssodd hwynt: ond myfi fy hun a ddiengais yn vnic i fynegu i ti.
17Tra’r ydoedd hwn yn llefaru, yna arall a ddaeth, ac a ddywedodd, y Caldeaid a ymosodasant yn dair byddin, ac a ruthrasant ir camêlod, ac ai dugasant ymmaith, tarawsant hefyd y llangciau a min y cleddyf: a minne fy hun yn vnic a ddiengais i fynegu i ti.
18Tra’r ydoedd hwn yn llefaru, yna arall a ddaeth, ac a ddywedodd: dy feibion a’th ferched oeddynt yn bwyta, ac yn yfed gwîn yn nhŷ eu brawd hynaf,
19Ac wele gwynt mawr a ddaeth oddi tros yr anialwch, ac a darawodd wrth bedair congl y tŷ, fel y syrthiodd efe ar y llangciau, ac y buant feirw: ond myfi fy hun yn vnic a ddiengais i fynegu i ti.
20Yna y cyfododd Iob, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei benn: syrthiodd hefyd i lawr, ac addolodd.
21Ac efe a ddywedodd, noeth y daethum o grôth fy mam, a noeth y dychwelaf yno, yr Arglwydd a roddodd, a’r Arglwydd a ddygodd ymmaith: bendigedic fyddo enw’r Arglwydd.
22Er hynny ei gyd ni phechodd Iob, ac ni roddodd efe ynfydion am Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.