1Na cheisiwch fod yn feistred lawer, fy mrodyr, gan wybod y cawn ni farnedigaeth fwy.
2Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro: o bydd i nêb na lithro ar air hwnnw sydd ŵr perffaith, ac a ddichon ffrwyno’r hôll gorph.
3Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau ’r meirch iw gwneuthur yn vfydd i ni, ac yr ydym ni yn troi eu holl gyrph hwynt oddi amgylch,
4Wele hefyd y llongau, y rhai er eu bod cymmaint, a gwynt creulon iw gyrru, etto troir hwynt oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno’r llywudd.
5Felly y tafod hefyd aelod bychan yw, yn bostio pethau mawrion, wele faint y defnydd a ynnynna ychydic dân.
6A’r tafod tân ydyw, ie byd o anwiredd: felly y gosoded y tafod ym mysc ein haelodau, fel y llygra efe yr holl gorph, yn fflammau troell naturiaeth, ac yn fflammedig gan vffern.
7Canys hôll natur anifeiliaid, ac adar ac ymlusciaid, a’r pethau yn y môr a ddofir, ac a ddofwyd gan natur ddynol:
8Eithr y tafod ni ddichon nêb rhyw ddŷn ei ddofi, drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol.
9Trwyddo ef y bendithiwn ni Dduw a’r Tâd, a thrwyddo ef y melldithiwn ni ddynion a wnaethwyd ar lun Duw.
10O’r vn genau y daw allan fendith a melldith: fy mrodyr ni ddyle y pethau hyn fod felly.
11A rydd ffynnon o’r vn man ddwfr melus a chwerw?
12A ddichon y pren ffygus fy mrodyr ddwyn olifaid, ne wînwydden ffigus? felly ni ddichon vn ffynnon roddi dwfr hallt a chroiw.
13Pwy sydd wr doeth a gwybodaeth ganddo yn eich mysc chwi? dangosed drwy ymwreddiad da ei weithredoedd mewn mwyneidddra doethineb.
14Eithr o bydd cennych chwi genfigen chwerw, ac ymryson yn eich calonnau, nac ymlawenhewch, ac na fyddwch gelwyddoc yn erbyn y gwirionedd.
15Y doethineb hyn nid oddi vchod y mae yn descyn, eithr daiarol, anifeilaidd, a chythreulic
16Canys lle y byddo cenfigen, ac ymryson, yno y bydd terfysc, a phob gweithred ddrwg.
17Eithr y doethineb sydd oddi vchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychol, boneddigaidd, hawdd ei thrino, llawn trugaredd, a ffrwythau dâ, yn ddidueddol, ac yn ddi-ragrith.
18A ffrwyth cyfiawnder a heûir mewn heddwch i’r rhai heddychol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
