1Yna y rhoed corsen i mi debyg i wialen, a’r angel a safodd wrthif, ac a ddywedodd, cyfot a mesur deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sy yn addoli ynddi hi,
2Ond y cyntedd yr hwn sydd o’r tu allan’r deml, bwrw allan, ac na fesur ef, canys efe a roed i’r cenhedloedd, ac hwy a sathrant tann draed y ddinas santaidd ddeu-fîs a deugain.
3Ac mi a roddaf i’m dau dyst, a hwy a brophwydant fîl a thrugain a deu-cant o ddyddiau, wedi eu hymwisco â sach-liain.
4Dwy olewydden yw y rhai hyn, â dau ganhwyll-bren yn sefyll ger bron Duw’r ddaiar.
5Ac os ewyllysia nêb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau, ac a ddinistra eu gelynion, ac os ewyllysia nêb eu drygu hwynt, fel hyn y lleddir ef.
6Audurdod sydd gan y rhai hyn i gaeu y nêf, rhag iddi lawio yn nyddiau eu prophwydoliaeth hwynt, ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd iw troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaiar â phôb plâ, cyn fynyched ac y mynnant.
7A phan ddarfyddo iddynt orphen eu testiolaeth, y bwyst-fil, yr hwn a ddaw allan o’r pwll heb waelod, a ryfela yn eu herbyn hwy, ac a’u gorchfyga hwynt, ac a’u llâd hwynt.
8A’u cyrph hwynt a orwedd ar heôlydd y ddinas fawr, yr hon a elwir yn ysprŷdol Sodoma, a’r Aipht, lle y croes-hoeliwyd ein Harglwydd ni.
9Ac hwy o’r bobloedd, a’r llwythau, a’r ieithoedd, a’r cenhedloedd a welant eu cyrph hwynt dri-diau a hanner, ac ni ddioddefant roi eu cyrph hwynt mewn beddau.
10A’r rhai ydynt yn trigo ar y ddaiar a llawenhânt arnynt hwy, ac a fyddant gyssurus, ac a ddanfonant roddion vn at y llall, canys y ddau brophwyd hyn oeddynt ofidus i’r rhai oeddent yn trigo ar y ddaiar.
11Ac yn ôl tri-diau a hanner, yspryd y bywyd yn dyfod oddi wrth Dduw a aiff i mewn ynddynt hwy, ac hwy a safant ar eu traed, ac ofn mawr a syrth ar y rhai ai gwelant hwy.
12Ac hwy a glywsant lais mawr o’r nêf, yn dywedyd wrthynt, dewch i fynu ymma, ac hwy a aethant i fynu i’r nêf mewn ŵybren, a’u gelynnion hwy a’u gwelsant hwy.
13Ac yn yr awr honno, yr ydoedd daiar-gryn mawr, a decfed ran o’r dinas a syrthiodd i lawr, a seith-mil o wŷr a laddwyd yn y ddaiar-gryn, a’r lleill a ofnasant, ac a roddasant ogoniant i Duw’r nêf.
14Yr ail gwae a aeth heibio, ac wele, y trydydd gwae a ddaw ar frŷs.
15A’r seithfed angel a gânodd ar vdcorn, a lleisiau mawr a wnaethbwyd yn y nêf, gan ddywedyd, ein Harglwydd ni, a’i Grist piau teyrnasoedd y byd hwn, ac efe a deyrnasa yn oes osoedd.
16A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oeddent yn eistedd ar eu cadeiriau ger bron Duw, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw:
17Gan ddywedyd, yr ydym yn diolch i ti, ô Arglwydd Dduw holl-alluog, yr hwn ŵyt, yr hwn oeddit, a’r hwn ŵyt ar ddyfod, am dderbyn o honot dy allu mawr, a theyrnasu o honot.
18A’r cenhedloedd a lidiasant, a’th lîd ti a ddaeth hefyd, ac amser i farnu’r meirw, ac i rai gwobr i’th wasanaeth-wŷr y prophwydi, a’r sainct, ac i’r rhai ydynt yn ofni dy enw, bychain a mawr, ac i ddifetha o honot ti y rhai ydynt yn dinistrio y ddaiar.
19A theml Dduw oedd yn agored yn y nêf, ac Arch ei gyfammod ef a welwyd yn ei deml, ac yr oedd mellt, a lleisiau, a tharanau, a daiargryn, a chenllysc mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.