Ieremi 46 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVI.Ieremi yn prophwydo dinistr i’r Aipht. 27 A gwared i Israel.

1Dymma y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi y prophwyd yn erbyn y cenhedloedd,

2Yn erbyn yr Aiphtiaid, yn erbyn llu 2.Bren.23.29. 2.Cron.35.20.Pharao Necho brenin yr Aipht yr hwn oedd wrth afon Euphrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nabuchodonosor brenin Babilon ei ladd yn y bedwaredd flwyddyn i Iehoacim fab Iosia brenin Iuda.

3Tecclwch chwi y tarian, a’r astalch, a nesewch i ryfel.

4Cenglwch y meirch, ac aed y marchogion arnynt, sefwch mewn helmau, gloiwwch y gwaiw-ffynn, a gwiscwch chwi y llurigau.

5Pa ham y gwelafi hwynt yn ddychrynnedic wedi cilio yn eu hôl, ai cedyrn hwynt wedi eu lladd? ie hwynt a ffoasant ymmaith ac nid edrychasant yn eu hôl, dychryn o amgylch medd yr Arglwydd.

6Ni chaiff y buan ffoi, na’r cadarn ddiangc: tua’r gogledd ger llaw afon Euphrates y tripiant, ac y syrthiant.

7Pwy hwn yn ymgodi fel afon? ai ddyfroedd yn dygyfor fel y prif afonydd?

8Yr Aipht sydd fel afon yn ymgodi, ai dyfroedd sy yn dygyfor fel y prif afonydd: ac hi a ddywedodd, mi a âf i fynu a orchguddiaf y ddaiar, myfi a ddifethaf y ddinas, a’r rhai ydynt yn trigo ynddi.

9O feirch deuwch i fynu, ô gerbydau, ymdreiglwch; a deuwch allan y cedyrn, yr Ethiopiaid, a’r Libiaid y rhai sy yn dwyn tarian, a’r Lydiaid y rhai sydd yn teimlo, yn tynnu bwa.

10Canys dydd Arglwydd Dduw y lluoedd hwn dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynnion o herwydd y cleddyf a yssa ac a ddigonir, efe hefyd a drochir yn eu gwaed hwynt: canys Esa.34.6.aberth i Arglwydd Dduw y lluoedd yn nhîr y gogledd wrth afon Euphrates.

11O forwyn ferch yr Aipht dos di i fynu i Gilead a dwg driacl: yn ofer yr arferi di lawer o feddiginiaethau, ni iechyd i ti.

12Y cenhedloedd a glywsant dy wradwydd, dy waedd a lanwodd y wlâd, canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd, a hwynt ill dau a gyd-syrthiasant.

13Y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Ieremi y prophwyd, am ddyfodiad Nabuchodonosor brenin Babilon i ddinistrio gwlad yr Aipht.

14Mynegwch yn yr Aipht, cyhoeddwch ym Migdol, hyspyswch yn Noph, ac yn Thaphnis: dywedwch, saf di, a bydd barod, o blegit y cleddyf a yssa dy amgylchoedd.

15Pa ham y syrthiodd dy rai cryfion? ni allent hwy sefyll, am i’r Arglwydd eu gwthio hwynt.

16Efe a wnaeth i lawer syrthio, pob vn a syrthiodd ar ei gilydd, a hwynt a ddywedasant, cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl i wlad ein ganedigaeth rhac cleddyf y gorthrymmwr.

17Yno y gwaeddasant, Pharao brenin yr Aipht terfysc, yr amser nodedic a aeth heibio.

18Fel yr ydwyfi yn fyw medd y Brenin (enw yr hwn Arglwydd y lluoedd) cynn siccred Thabor yn y mynyddoedd, a Charmel yn y môr, y daw

19O ferch drigiannol yr Aipht gwna i ti offer caeth-glud: canys Noph a fydd anghyfannedd, ac a ddifethir heb bresswylydd.

20Yr Aipht anner brydferth, dinistr sydd yn dyfod: o’r gogledd, y mae efe yn dyfod.

21Ei cyflog hefyd oi mewn hi, fel lloi pascedig, etto hwynt a droant eu hwynebau, ac a gyd-ffoant ni safant, o herwydd dydd eu destruw hwynt, amser eu gofwy sydd yn dyfod arnynt.

22Ei llais hi a aiff allan fel sarph, canys â llû yr ânt hwy ac â bwyîll y deuant yn ei herbyn hi, fel cymyn-wŷr coed.

23Hwynt a gymynant ei choed hi medd yr Arglwydd, diau nid ellir eu cyfrif hwynt: canys amlach fyddant na’r ceiliogod rhedyn, ac heb rifedi arnynt.

24Merch yr Aipht a gywilyddiwyd: hi a roddwyd yn llaw pobl y gogledd.

25[Fel hynn] y dywedodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel, wele, myfi a ymwelaf â gweryn Alexandria, ac â Pharao, ac a’r Aipht, ac ai duwiau hi, ac ai brenhinoedd hi, sef â Pharao, ac a’r rhai ydynt yn ymddyried ynddo.

26Ac mi ai rhoddaf hwynt yn llaw y rhai ydynt yn ceisio eu henioes, sef yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef: ac wedi hynny hi a gyfanneddir megis y dyddiau gynt medd yr Arglwydd.

27 Iere.30.11. Ond nac ofna di ô fyng-wâs Iacob, a thithe Israel na ddychrynna, canys wele myfi a’th gadwaf di o bell, a’th hâd o wlâd eu caethiwed: ac Iacob a ddychwel, ac a orphywys, ac a fydd lwyddiannus, ac heb neb dychrynno.

28O fyng-wâs Iacob nac ofna medd yr Arglwydd, canys yr ydwyfi gyd â thi, ac mi a wnaf drangc ar yr holl gēhedloedd y rhai i’th fwriais di attynt, ond ni wnafi drangc arnat ti; eithr mi a’th Iere.10.24.gospaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymmaith yn llwyr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help